Trosolwg Athrawon

Gweler isod drosolwg athrawon ar gyfer pob fideo Cemeg.

Côd clip fideo

Teitl yr arbrawf
(o Lyfr Labordy CBAC)

Cyfeiriad manyleb

Nodiadau ychwanegol

01 Dadansoddi grafimetrig

UG Uned 1.6

Y Tabl Cyfnodol
 
02 Defnyddio dadansoddi ansoddol i adnabod hydoddiannau anhysbys

UG Uned 1.6

Y Tabl Cyfnodol
 
03

Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd

UG Uned 1.7 

Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas
Mae'n cynnwys disgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
04 Safoni hydoddiant asid

UG Uned 1.7

Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
05

Titradu am yn ôl

UG Uned 1.7

Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
06 Titradu dwbl

UG Uned 1.7 

Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
07 Mesur newid enthalpi adwaith yn anuniongyrchol

UG Uned 2.1

Thermocemeg
Rhowch bwyslais ar golli cyn lleied o wres â phosibl tra'n cymysgu'r adweithyddion.
08 Mesur newid enthalpi hylosgiad

UG Uned 2.1

Thermocemeg
 
09 Defnyddio dull casglu nwy i ymchwilio i gyfradd adwaith

UG Uned 2.2

Cyfraddau adweithio
 
10 Astudio adwaith ‘cloc ïodin’

UG Uned 2.2

Cyfraddau adweithio
 
11 Adwaith amnewid niwclioffilig

UG Uned 2.6

Halogenoalcanau
 
12 Paratoi ester a’i wahanu drwy ddistyllu

UG Uned 2.7

Alcoholau ac asidau carbocsilig
 
13 Adeiladu celloedd electrocemegol

U2 Uned 3.1

Rhydocs a photensial electrod safonol
Sicrhewch fod yr electrodau metel yn lan (e.e. glanhewch gan ddefnyddio papur emeri).
14 Titradiad rhydocs syml

U2 Uned 3.2

Adweithiau rhydocs
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd trwy ditradu’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
15 Amcangyfrif copr mewn halwynau copr(II)

U2 Uned 3.2

Adweithiau rhydocs
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd trwy ditradu’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
16 Darganfod gradd adwaith

U2 Uned 3.5

Cineteg gemegol
 
17 Darganfod cysonyn ecwilibriwm

A2 Uned 3.8

Cysonion ecwilibriwm
 
18 Titradu gan ddefnyddio chwiliedydd pH

A2 Uned 3.9

Ecwilibria asid-bas
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol.
19 Synthesis cynnyrch organig hylifol

A2 Uned 4.8

Synthesis organig a dadansoddi
 
20 Synthesis cynnyrch organig solid

A2 Uned 4.8

Synthesis organig a dadansoddi
 
21 Synthesis dau gam

A2 Uned 4.8

Synthesis organig a dadansoddi
Gellir cyflawni'r synthesis dros nifer o sesiynau.
22 Cynllunio cyfres o brofion i adnabod cyfansoddion organig

A2 Uned 4.4

Aldehydau a chetonau
Amrywiwch gyfuniadau'r cyfansoddion ymhlith grŵp y dysgwyr
23 Cromatograffaeth papur

A2 Uned 4.8

Synthesis organig a dadansoddi
 

Cliciwch yma am yr atebion i'r cwestiynau Cemeg, os gwelwch chi'n dda.

Gweler isod drosolwg athrawon ar gyfer pob fideo Bioleg.

Cod clip fideo

 

Teitl yr arbrawf

(o Lyfr Labordy CBAC)

Cyfeiriad manyleb

Nodiadau ychwanegol

01

Profion bwyd

UG Uned 1.1

Uno elfennau cemegol â’i gilydd i ffurfio cyfansoddion biolegol

Pan fydd y gweithdrefnau ar gyfer profi'r gwahanol fathau o fwyd wedi'u meistroli, gellir defnyddio cymysgeddau o fathau o fwyd i gadarnhau dealltwriaeth.

02

Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad

UG Uned 1.2

Adeiledd a threfniadaeth celloedd

 

03

Paratoi sleid o gelloedd winwnsyn/nionyn a gwneud lluniad gwyddonol ohoni, gan gynnwys graddnodi maint gwirioneddol a chwyddhad y lluniad

UG Uned 1.2

Adeiledd a threfniadaeth celloedd

Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).

04

Canfod potensial dŵr drwy fesur newidiadau màs neu hyd

UG Uned 1.3

Cellbilenni a chludiant  

Mae mesur newid canrannol màs yn rhoi amcangyfrif sy’n fwy manwl gywir o bwynt y plasmolysis dechreuol. 

Gall cynnal trafodaeth am y berthynas rhwng potensial hydoddyn a photensial dŵr cyn gwneud y gwaith ymarferol, fod yn gymorth i fyfyrwyr ddeall beth sy’n achosi’r newid ym màs neu hyd y feinwe.

05

Canfod y potensial hydoddyn drwy fesur i ba raddau mae plasmolysis dechreuol yn digwydd

 

UG Uned 1.3

Cellbilenni a chludiant

Mae nod y gwaith ymarferol hwn yn debyg i nod ‘Canfod potensial dŵr drwy fesur newidiadau màs neu hyd’ (B04) (canfod pwynt plasmolysis dechreuol) ond mae’n defnyddio arddull gwahanol.

06

Defnyddio betys i ymchwilio i athreiddedd cellbilenni

UG Uned 1.3

Cellbilenni a chludiant

Os nad oes colorimedr ar gael, gallai ymgeiswyr werthuso dibynadwyedd cael eu canlyniadau gan ddefnyddio barn oddrychol.

07

Ymchwilio i effaith tymheredd neu pH ar actifedd ensymau

UG Uned 1.4

Ensymau sy’n rheoleiddio adweithiau biolegol

 

Gall gosod y tiwbiau i sefyll yn erbyn cerdyn gwyn gynorthwyo i roi barn ar ran olaf yr arbrawf.

08

Ymchwilio i effaith crynodiad ensym neu swbstrad ar actifedd ensymau

UG Uned 1.4

Ensymau sy’n rheoleiddio adweithiau biolegol

 

Gall y disgiau lynu at ei gilydd wrth gael eu torri o ddarnau lluosog o bapur hidlo – gwahanwch nhw ymlaen llaw.

Os bydd y disgiau'n dechrau codi cyn cyrraedd y gwaelod, addaswch y crynodiad o hydrogen perocsid a ddefnyddir.

 

09

Echdynnu DNA yn syml o ddefnydd byw

UG Uned 1.5

Echdynnu DNA yn syml o ddefnydd byw

 

10

Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau blaenwreiddyn i ddangos camau mitosis

UG Uned 1.6

Mae deunydd genetig yn cael ei gopïo a’i drosglwyddo i epilgelloedd  

Rhaid cymryd gofal i beidio â gorboethi’r sleidiau gan y gallen nhw gracio.

11

Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau wedi'u paratoi o antheri'n datblygu i ddangos camau meiosis

 

UG Uned 1.6

Mae deunydd genetig yn cael ei gopïo a’i drosglwyddo i epilgelloedd

Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).

12

Ymchwilio i fioamrywiaeth mewn cynefin

UG Uned 2.1

Mae pob organeb yn perthyn i'w gilydd drwy eu hanes esblygiadol

 

 

13

Ymchwilio i niferoedd stomata mewn dail

 

UG Uned 2.2

Addasiadau i gyfnewid nwyon

 

Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).

14

Dyrannu pen pysgodyn i ddangos y system cyfnewid nwyon

 

UG Uned 2.2

Addasiadau i gyfnewid nwyon

 

Mae pennau eog yn ddelfrydol os ydynt ar gael, neu macrell os nad ydynt.

15

Lluniadu cynllun gwyddonol chwyddhad isel o sleid wedi'i pharatoi o doriad ardraws drwy ddeilen, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol a chwyddhad y lluniad

 

UG Uned 2.2

Addasiadau i gyfnewid nwyon

 

Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).

16

Defnyddio potomedr syml i ymchwilio i drydarthiad

UG Uned 2.3

Addasiadau ar gyfer cludiant

 

 

17

Lluniadu cynllun gwyddonol chwyddhad isel o sleid wedi'i pharatoi o doriad ardraws drwy rydweli a gwythïen, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol a chwyddhad y lluniad

 

UG Uned 2.3

Addasiadau ar gyfer cludiant

Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).

18

Dyrannu calon mamolyn

UG Uned 2.3

Addasiadau ar gyfer cludiant

Mae calonnau cig oen neu foch ar gael mewn archfarchnadoedd ond maent wedi'u sleisio ar draws yr atria. Gall cigyddion lleol ddarparu calonnau gyda phibellau gwaed yn dal i fod ynghlwm.

 

19

Ymchwilio i actifedd dadhydrogenas mewn burum

A2 Uned 3.1

Pwysigrwydd ATP

 

Yn aml, gall burum gael tymheredd optimwm sy’n annisgwyl o uchel. Hefyd, gall burum weithiau fynd i sioc tymheredd pan gaiff ei baratoi gyntaf, felly dylid ei actifadu ymlaen llaw.

20

Defnyddio cromatograffaeth i ymchwilio i wahanu pigmentau cloroplastau

A2 Uned 3.2

Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig

 

Mae dail sbigoglys neu ddail danadl poethion yn gweithio'n dda.

Efallai na fydd y pigmentau i gyd yn weladwy, yn enwedig os nad yw'r daliant yn ddigon crynodedig.

 

21

Ymchwilio i effaith golau ar gyfradd ffotosynthesis


 

A2 Uned 3.2

Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig

Gellir hefyd gynhyrchu'r peli algaidd trwy arllwys y daliant i mewn i chwistrell tyllfedd cul heb y gwthiwr a'i adael i ddiferu trwodd i mewn i galsiwm clorid.

 

22

Ymchwilio i swyddogaeth nitrogen a magnesiwm wrth i blanhigion dyfu

A2 Uned 3.2

Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig

 

23

Ymchwilio i ffactorau sy’n effeithio ar resbiradaeth mewn burum

A2 Uned 3.3

Mae resbiradaeth yn rhyddhau egni cemegol mewn prosesau biolegol

 

Yn aml, gall burum gael tymheredd optimwm sy’n annisgwyl o uchel. Hefyd, gall burum weithiau fynd i sioc tymheredd pan gaiff ei baratoi'n gyntaf, felly dylid ei actifadu ymlaen llaw.

 

24

Ymchwilio i niferoedd bacteria mewn llaeth

 

A2 Uned 3.4

Microbioleg

Dylid sicrhau bod technegau aseptig yn cael eu cynnal fel y manylir arnynt gan CLEAPSS.

25

Ymchwilio i niferoedd a dosbarthiad planhigion mewn cynefin

 

A2 Uned 3.5

Maint poblogaeth ac ecosystemau

 

 

26

Dyrannu aren mamolyn

A2 Uned 3.7

Homeostasis a’r arennau

Mae arennau cig oen neu fochyn ar gael mewn archfarchnadoedd ond maent yn cael eu torri'n agored ac fel arfer nid oes unrhyw bibellau gwaed neu wreterau ynghlwm. Gall cigyddion lleol ddarparu arennau gyda'r rhain yn dal i fod ynghlwm.

27

Defnyddio hadau sy'n egino i ymchwilio i dreuliad agar startsh

A2 Uned 4.2

Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion

 

Defnyddiwch dechneg aseptig i leihau halogiad ffwngaidd.

28

Dyrannu blodau sy’n cael eu peillio gan y gwynt a gan bryfed

 

A2 Uned 4.2

Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion

 

 

29

Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau wedi'u paratoi o antheri

A2 Uned 4.2

Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion

 

Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop a gynhaliwyd yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).

 

30

Arbrawf i arddangos arwahanu genynnau

A2 Uned 4.3

Etifeddiad

 

31

Ymchwilio i amrywiad di-dor mewn rhywogaeth

 

A2 Uned 4.4

Amrywiad ac esblygiad

 

 

Cliciwch yma am yr atebion i'r cwestiynau Bioleg, os gwelwch chi'n dda

Gweler isod drosolwg athrawon ar gyfer pob fideo Ffiseg.

Cod clip fideo

 

Teitl yr arbrawf

(o Lyfr Labordy CBAC)

Cyfeiriad manyleb

Nodiadau ychwanegol

00

Defnyddio fernier

Sgiliau cyffredinol

Mae'r clip fideo hwn yn dangos sut i ddefnyddio Caliper fernier / digidol yn ôl yr angen mewn arbrofion eraill yn y gyfres hon, fel y nodir isod.

01

Mesur dwysedd solidau

UG Uned 1.1

Ffiseg sylfaenol

Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00).

02

Defnyddio egwyddor momentau i ganfod masau anhysbys

UG Uned 1.1

Ffiseg sylfaenol

 

03

Mesur g drwy ddisgyn yn rhydd

UG Uned 1.2

Cinemateg

 

04

Ymchwilio i ail ddeddf Newton

UG Uned 1.3

Dynameg

 

05

Mesur modwlws Young metel ar ffurf gwifren

UG Uned 1.5

Solidau dan ddiriant

Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00).

06

Ymchwilio i’r berthynas grym – estyniad ar gyfer rwber

UG Uned 1.5

Solidau dan ddiriant

Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00).

07

Ymchwilio i briodweddau I–V ffilament lamp a gwifren fetel ar dymheredd cyson

UG Uned 2.2

Gwrthiant

 

08

Mesur gwrthedd gwifren

UG Uned 2.2

Gwrthiant

Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00).

09

Ymchwilio i amrywiad gwrthiant gyda thymheredd mewn gwifren fetel

UG Uned 2.2

Gwrthiant

 

10

Mesur gwrthiant mewnol cell

UG Uned 2.3

Cylchedau GP

 

11

Mesur yr amrywiadau arddwysedd ar gyfer polareiddiad

UG Uned 2.4

Natur tonnau

 

12

Defnyddio holltau dwbl Young i fesur tonfedd

UG Uned 2.5

Priodweddau tonnau

Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00).

13

Defnyddio gratin diffreithiant i ganfod tonfedd

UG Uned 2.5

Priodweddau tonnau

Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00).

14

Defnyddio tonnau unfan i fesur buanedd sain

UG Uned 2.5

Priodweddau tonnau

 

15

Mesur indecs plygiant defnydd

UG Uned 2.6

Plygiant tonnau

 

16

Defnyddio deuodau LED i fesur h

UG Uned 2.7

Ffotonau

 

17

Defnyddio pendil i fesur g

A2 Uned 3.2

Dirgryniadau

 

18

Ymchwilio i wanychiad sbring

A2 Uned 3.2

Dirgryniadau

 

19

Defnyddio’r deddfau nwyon i amcangyfrif sero absoliwt

A2 Uned 3.4

Ffiseg thermol

 

20

Mesur cynhwysedd gwres sbesiffig solid

A2 Uned 3.4

Ffiseg thermol

 

21

Ymchwilio i ddadfeiliad ymbelydrol – cydweddiad â dis

A2 Uned 3.5

Dadfeiliad niwclear

 

22

Ymchwilio i amrywiad arddwysedd pelydriad gama gyda phellter

A2 Uned 3.5

Dadfeiliad niwclear

 

23

Ymchwilio i wefru a dadwefru cynhwysydd i ganfod cysonyn amser

A2 Uned 4.1

Cynhwysiant

Rhaid i fyfyrwyr roi sylw arbennig i gysylltiad cywir y cynwysyddion gan y gallant ffrwydro'n hawdd os ydynt wedi'u cysylltu yn anghywir.

 

24

Ymchwilio i’r egni sy’n cael ei storio mewn cynhwysydd

A2 Uned 4.1

Cynhwysiant

 

25

Ymchwilio i’r grym ar gerrynt mewn maes magnetig

A2 Uned 4.4

Meysydd magnetig

 

26

Defnyddio chwiliedydd Hall i ymchwilio i ddwysedd fflwcs

A2 Uned 4.4

Meysydd magnetig

 

Cliciwch yma am yr atebion i’r cwestiynau Ffiseg, os gwelwch chi’n dda.