Cefndir

Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar yr ymarferion ymarferol craidd a gorfodol a ymddengys ym manylebau newydd CBAC ar gyfer Bioleg, Cemeg a Ffiseg UG ac Uwch. Bydd yn helpu dysgwyr i gryfhau eu sgiliau ymarferol wrth baratoi ar gyfer papurau arholiad ysgrifenedig, ac i greu eu ‘llyfrau labordy’ sydd yn angenrheidiol i'r cyrsiau newydd. Mae'r adnodd wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio ar gyfer dysgu annibynnol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth, er mwyn helpu athrawon i gefnogi sgiliau ymarferol dysgwyr.

Mae’r adnodd yn cynnwys clipiau fideo ymarferol, sy’n ymgysylltiol, yn gyfoes ac yn realistig. Mae pob clip fideo yn cynnwys sylwebaeth gan ymarferydd ac yn cynnwys cwestiynau priodol i gefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau am y dulliau gweithredu mwyaf priodol.

Gan ddechrau gyda’r drefn arbrofol, caiff dysgwyr eu cyflwyno i eirfa allweddol sydd yn angenrheidiol o fewn gwyddoniaeth, megis manwl gywirdeb, ailadroddadwyedd ac ati. Caiff hyn ei ddatblygu drwy’r clipiau fideo er mwyn sicrhau bod rhinweddau data da yn flaenllaw yn meddyliau dysgwyr wrth iddyn nhw ymgysylltu â’r clipiau. Mae sylwebaeth yr ymarferydd yn esbonio’r prosesau, sgiliau a thechnegau a ddefnyddir yn y clip fideo.

Gellir lawrlwytho’r clipiau fideo ar wahân heb sylwebaeth yr ymarferydd. Mae hyn yn galluogi dysgwyr neu athrawon i gynllunio, cynhyrchu a chyflwyno eu trosleisiau eu hunain.

Mae’r adnodd wedi’i fynegeio a’i drefnu yn bynciau drwy gyfrwng rhestr ddewis.

Mae gan bob clip fideo nodweddion DVD, a gellir oedi, stopio, symud yn gyflym ymlaen ac ailddirwyn y clipiau.