Trosolwg Athrawon
Gweler isod drosolwg athrawon ar gyfer pob fideo Cemeg.
Côd clip fideo |
Teitl yr arbrawf |
Cyfeiriad manyleb |
Nodiadau ychwanegol |
---|---|---|---|
01 | Dadansoddi grafimetrig |
UG Uned 1.6 Y Tabl Cyfnodol |
|
02 | Defnyddio dadansoddi ansoddol i adnabod hydoddiannau anhysbys |
UG Uned 1.6 Y Tabl Cyfnodol |
|
03 |
Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd |
UG Uned 1.7 Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas |
Mae'n cynnwys disgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
04 | Safoni hydoddiant asid |
UG Uned 1.7 Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas |
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
05 |
Titradu am yn ôl |
UG Uned 1.7 Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas |
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
06 | Titradu dwbl |
UG Uned 1.7 Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas |
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
07 | Mesur newid enthalpi adwaith yn anuniongyrchol |
UG Uned 2.1 Thermocemeg |
Rhowch bwyslais ar golli cyn lleied o wres â phosibl tra'n cymysgu'r adweithyddion. |
08 | Mesur newid enthalpi hylosgiad |
UG Uned 2.1 Thermocemeg |
|
09 | Defnyddio dull casglu nwy i ymchwilio i gyfradd adwaith |
UG Uned 2.2 Cyfraddau adweithio |
|
10 | Astudio adwaith ‘cloc ïodin’ |
UG Uned 2.2 Cyfraddau adweithio |
|
11 | Adwaith amnewid niwclioffilig |
UG Uned 2.6 Halogenoalcanau |
|
12 | Paratoi ester a’i wahanu drwy ddistyllu |
UG Uned 2.7 Alcoholau ac asidau carbocsilig |
|
13 | Adeiladu celloedd electrocemegol |
U2 Uned 3.1 Rhydocs a photensial electrod safonol |
Sicrhewch fod yr electrodau metel yn lan (e.e. glanhewch gan ddefnyddio papur emeri). |
14 | Titradiad rhydocs syml |
U2 Uned 3.2 Adweithiau rhydocs |
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd trwy ditradu’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
15 | Amcangyfrif copr mewn halwynau copr(II) |
U2 Uned 3.2 Adweithiau rhydocs |
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd trwy ditradu’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
16 | Darganfod gradd adwaith |
U2 Uned 3.5 Cineteg gemegol |
|
17 | Darganfod cysonyn ecwilibriwm |
A2 Uned 3.8 Cysonion ecwilibriwm |
|
18 | Titradu gan ddefnyddio chwiliedydd pH |
A2 Uned 3.9 Ecwilibria asid-bas |
Cyfeiriwch y dysgwyr at ‘Defnyddio titradiad i baratoi halwyn hydawdd’ (C03) am ddisgrifiad manylach o'r dechneg dditradaethol. |
19 | Synthesis cynnyrch organig hylifol |
A2 Uned 4.8 Synthesis organig a dadansoddi |
|
20 | Synthesis cynnyrch organig solid |
A2 Uned 4.8 Synthesis organig a dadansoddi |
|
21 | Synthesis dau gam |
A2 Uned 4.8 Synthesis organig a dadansoddi |
Gellir cyflawni'r synthesis dros nifer o sesiynau. |
22 | Cynllunio cyfres o brofion i adnabod cyfansoddion organig |
A2 Uned 4.4 Aldehydau a chetonau |
Amrywiwch gyfuniadau'r cyfansoddion ymhlith grŵp y dysgwyr |
23 | Cromatograffaeth papur |
A2 Uned 4.8 Synthesis organig a dadansoddi |
Cliciwch yma am yr atebion i'r cwestiynau Cemeg, os gwelwch chi'n dda.
Gweler isod drosolwg athrawon ar gyfer pob fideo Bioleg.
Cod clip fideo
|
Teitl yr arbrawf (o Lyfr Labordy CBAC) |
Cyfeiriad manyleb |
Nodiadau ychwanegol |
01 |
Profion bwyd |
UG Uned 1.1 Uno elfennau cemegol â’i gilydd i ffurfio cyfansoddion biolegol |
Pan fydd y gweithdrefnau ar gyfer profi'r gwahanol fathau o fwyd wedi'u meistroli, gellir defnyddio cymysgeddau o fathau o fwyd i gadarnhau dealltwriaeth. |
02 |
Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad |
UG Uned 1.2 Adeiledd a threfniadaeth celloedd |
|
03 |
Paratoi sleid o gelloedd winwnsyn/nionyn a gwneud lluniad gwyddonol ohoni, gan gynnwys graddnodi maint gwirioneddol a chwyddhad y lluniad |
UG Uned 1.2 Adeiledd a threfniadaeth celloedd |
Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02). |
04 |
Canfod potensial dŵr drwy fesur newidiadau màs neu hyd |
UG Uned 1.3 Cellbilenni a chludiant |
Mae mesur newid canrannol màs yn rhoi amcangyfrif sy’n fwy manwl gywir o bwynt y plasmolysis dechreuol. Gall cynnal trafodaeth am y berthynas rhwng potensial hydoddyn a photensial dŵr cyn gwneud y gwaith ymarferol, fod yn gymorth i fyfyrwyr ddeall beth sy’n achosi’r newid ym màs neu hyd y feinwe. |
05 |
Canfod y potensial hydoddyn drwy fesur i ba raddau mae plasmolysis dechreuol yn digwydd
|
UG Uned 1.3 Cellbilenni a chludiant |
Mae nod y gwaith ymarferol hwn yn debyg i nod ‘Canfod potensial dŵr drwy fesur newidiadau màs neu hyd’ (B04) (canfod pwynt plasmolysis dechreuol) ond mae’n defnyddio arddull gwahanol. |
06 |
Defnyddio betys i ymchwilio i athreiddedd cellbilenni |
UG Uned 1.3 Cellbilenni a chludiant |
Os nad oes colorimedr ar gael, gallai ymgeiswyr werthuso dibynadwyedd cael eu canlyniadau gan ddefnyddio barn oddrychol. |
07 |
Ymchwilio i effaith tymheredd neu pH ar actifedd ensymau |
UG Uned 1.4 Ensymau sy’n rheoleiddio adweithiau biolegol
|
Gall gosod y tiwbiau i sefyll yn erbyn cerdyn gwyn gynorthwyo i roi barn ar ran olaf yr arbrawf. |
08 |
Ymchwilio i effaith crynodiad ensym neu swbstrad ar actifedd ensymau |
UG Uned 1.4 Ensymau sy’n rheoleiddio adweithiau biolegol
|
Gall y disgiau lynu at ei gilydd wrth gael eu torri o ddarnau lluosog o bapur hidlo – gwahanwch nhw ymlaen llaw. Os bydd y disgiau'n dechrau codi cyn cyrraedd y gwaelod, addaswch y crynodiad o hydrogen perocsid a ddefnyddir.
|
09 |
Echdynnu DNA yn syml o ddefnydd byw |
UG Uned 1.5 Echdynnu DNA yn syml o ddefnydd byw |
|
10 |
Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau blaenwreiddyn i ddangos camau mitosis |
UG Uned 1.6 Mae deunydd genetig yn cael ei gopïo a’i drosglwyddo i epilgelloedd |
Rhaid cymryd gofal i beidio â gorboethi’r sleidiau gan y gallen nhw gracio. |
11 |
Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau wedi'u paratoi o antheri'n datblygu i ddangos camau meiosis
|
UG Uned 1.6 Mae deunydd genetig yn cael ei gopïo a’i drosglwyddo i epilgelloedd |
Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02). |
12 |
Ymchwilio i fioamrywiaeth mewn cynefin |
UG Uned 2.1 Mae pob organeb yn perthyn i'w gilydd drwy eu hanes esblygiadol
|
|
13 |
Ymchwilio i niferoedd stomata mewn dail
|
UG Uned 2.2 Addasiadau i gyfnewid nwyon
|
Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02). |
14 |
Dyrannu pen pysgodyn i ddangos y system cyfnewid nwyon
|
UG Uned 2.2 Addasiadau i gyfnewid nwyon
|
Mae pennau eog yn ddelfrydol os ydynt ar gael, neu macrell os nad ydynt. |
15 |
Lluniadu cynllun gwyddonol chwyddhad isel o sleid wedi'i pharatoi o doriad ardraws drwy ddeilen, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol a chwyddhad y lluniad
|
UG Uned 2.2 Addasiadau i gyfnewid nwyon
|
Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02). |
16 |
Defnyddio potomedr syml i ymchwilio i drydarthiad |
UG Uned 2.3 Addasiadau ar gyfer cludiant
|
|
17 |
Lluniadu cynllun gwyddonol chwyddhad isel o sleid wedi'i pharatoi o doriad ardraws drwy rydweli a gwythïen, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol a chwyddhad y lluniad
|
UG Uned 2.3 Addasiadau ar gyfer cludiant |
Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop fel ag yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02). |
18 |
Dyrannu calon mamolyn |
UG Uned 2.3 Addasiadau ar gyfer cludiant |
Mae calonnau cig oen neu foch ar gael mewn archfarchnadoedd ond maent wedi'u sleisio ar draws yr atria. Gall cigyddion lleol ddarparu calonnau gyda phibellau gwaed yn dal i fod ynghlwm.
|
19 |
Ymchwilio i actifedd dadhydrogenas mewn burum |
A2 Uned 3.1 Pwysigrwydd ATP
|
Yn aml, gall burum gael tymheredd optimwm sy’n annisgwyl o uchel. Hefyd, gall burum weithiau fynd i sioc tymheredd pan gaiff ei baratoi gyntaf, felly dylid ei actifadu ymlaen llaw. |
20 |
Defnyddio cromatograffaeth i ymchwilio i wahanu pigmentau cloroplastau |
A2 Uned 3.2 Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig
|
Mae dail sbigoglys neu ddail danadl poethion yn gweithio'n dda. Efallai na fydd y pigmentau i gyd yn weladwy, yn enwedig os nad yw'r daliant yn ddigon crynodedig.
|
21 |
Ymchwilio i effaith golau ar gyfradd ffotosynthesis
|
A2 Uned 3.2 Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig |
Gellir hefyd gynhyrchu'r peli algaidd trwy arllwys y daliant i mewn i chwistrell tyllfedd cul heb y gwthiwr a'i adael i ddiferu trwodd i mewn i galsiwm clorid.
|
22 |
Ymchwilio i swyddogaeth nitrogen a magnesiwm wrth i blanhigion dyfu |
A2 Uned 3.2 Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig |
|
23 |
Ymchwilio i ffactorau sy’n effeithio ar resbiradaeth mewn burum |
A2 Uned 3.3 Mae resbiradaeth yn rhyddhau egni cemegol mewn prosesau biolegol
|
Yn aml, gall burum gael tymheredd optimwm sy’n annisgwyl o uchel. Hefyd, gall burum weithiau fynd i sioc tymheredd pan gaiff ei baratoi'n gyntaf, felly dylid ei actifadu ymlaen llaw.
|
24 |
Ymchwilio i niferoedd bacteria mewn llaeth
|
A2 Uned 3.4 Microbioleg |
Dylid sicrhau bod technegau aseptig yn cael eu cynnal fel y manylir arnynt gan CLEAPSS. |
25 |
Ymchwilio i niferoedd a dosbarthiad planhigion mewn cynefin
|
A2 Uned 3.5 Maint poblogaeth ac ecosystemau
|
|
26 |
Dyrannu aren mamolyn |
A2 Uned 3.7 Homeostasis a’r arennau |
Mae arennau cig oen neu fochyn ar gael mewn archfarchnadoedd ond maent yn cael eu torri'n agored ac fel arfer nid oes unrhyw bibellau gwaed neu wreterau ynghlwm. Gall cigyddion lleol ddarparu arennau gyda'r rhain yn dal i fod ynghlwm. |
27 |
Defnyddio hadau sy'n egino i ymchwilio i dreuliad agar startsh |
A2 Uned 4.2 Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion
|
Defnyddiwch dechneg aseptig i leihau halogiad ffwngaidd. |
28 |
Dyrannu blodau sy’n cael eu peillio gan y gwynt a gan bryfed
|
A2 Uned 4.2 Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion
|
|
29 |
Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau wedi'u paratoi o antheri |
A2 Uned 4.2 Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion
|
Yn y gwaith ymarferol hwn defnyddir graddnodi'r microsgop a gynhaliwyd yn 'Graddnodi'r microsgop golau ar chwyddhad isel ac uchel, gan gynnwys cyfrifo maint gwirioneddol ffurfiad a chwyddhad ffurfiad mewn lluniad’. (B02).
|
30 |
Arbrawf i arddangos arwahanu genynnau |
A2 Uned 4.3 Etifeddiad |
|
31 |
Ymchwilio i amrywiad di-dor mewn rhywogaeth
|
A2 Uned 4.4 Amrywiad ac esblygiad
|
|
Cliciwch yma am yr atebion i'r cwestiynau Bioleg, os gwelwch chi'n dda
Gweler isod drosolwg athrawon ar gyfer pob fideo Ffiseg.
Cod clip fideo
|
Teitl yr arbrawf (o Lyfr Labordy CBAC) |
Cyfeiriad manyleb |
Nodiadau ychwanegol |
00 |
Defnyddio fernier |
Sgiliau cyffredinol |
Mae'r clip fideo hwn yn dangos sut i ddefnyddio Caliper fernier / digidol yn ôl yr angen mewn arbrofion eraill yn y gyfres hon, fel y nodir isod. |
01 |
Mesur dwysedd solidau |
UG Uned 1.1 Ffiseg sylfaenol |
Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00). |
02 |
Defnyddio egwyddor momentau i ganfod masau anhysbys |
UG Uned 1.1 Ffiseg sylfaenol |
|
03 |
Mesur g drwy ddisgyn yn rhydd |
UG Uned 1.2 Cinemateg |
|
04 |
Ymchwilio i ail ddeddf Newton |
UG Uned 1.3 Dynameg |
|
05 |
Mesur modwlws Young metel ar ffurf gwifren |
UG Uned 1.5 Solidau dan ddiriant |
Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00). |
06 |
Ymchwilio i’r berthynas grym – estyniad ar gyfer rwber |
UG Uned 1.5 Solidau dan ddiriant |
Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00). |
07 |
Ymchwilio i briodweddau I–V ffilament lamp a gwifren fetel ar dymheredd cyson |
UG Uned 2.2 Gwrthiant |
|
08 |
Mesur gwrthedd gwifren |
UG Uned 2.2 Gwrthiant |
Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00). |
09 |
Ymchwilio i amrywiad gwrthiant gyda thymheredd mewn gwifren fetel |
UG Uned 2.2 Gwrthiant |
|
10 |
Mesur gwrthiant mewnol cell |
UG Uned 2.3 Cylchedau GP |
|
11 |
Mesur yr amrywiadau arddwysedd ar gyfer polareiddiad |
UG Uned 2.4 Natur tonnau |
|
12 |
Defnyddio holltau dwbl Young i fesur tonfedd |
UG Uned 2.5 Priodweddau tonnau |
Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00). |
13 |
Defnyddio gratin diffreithiant i ganfod tonfedd |
UG Uned 2.5 Priodweddau tonnau |
Yn yr arbrawf hwn mae angen gwneud defnydd o ‘Defnyddio fernier’ (P00). |
14 |
Defnyddio tonnau unfan i fesur buanedd sain |
UG Uned 2.5 Priodweddau tonnau |
|
15 |
Mesur indecs plygiant defnydd |
UG Uned 2.6 Plygiant tonnau |
|
16 |
Defnyddio deuodau LED i fesur h |
UG Uned 2.7 Ffotonau |
|
17 |
Defnyddio pendil i fesur g |
A2 Uned 3.2 Dirgryniadau |
|
18 |
Ymchwilio i wanychiad sbring |
A2 Uned 3.2 Dirgryniadau |
|
19 |
Defnyddio’r deddfau nwyon i amcangyfrif sero absoliwt |
A2 Uned 3.4 Ffiseg thermol |
|
20 |
Mesur cynhwysedd gwres sbesiffig solid |
A2 Uned 3.4 Ffiseg thermol |
|
21 |
Ymchwilio i ddadfeiliad ymbelydrol – cydweddiad â dis |
A2 Uned 3.5 Dadfeiliad niwclear |
|
22 |
Ymchwilio i amrywiad arddwysedd pelydriad gama gyda phellter |
A2 Uned 3.5 Dadfeiliad niwclear |
|
23 |
Ymchwilio i wefru a dadwefru cynhwysydd i ganfod cysonyn amser |
A2 Uned 4.1 Cynhwysiant |
Rhaid i fyfyrwyr roi sylw arbennig i gysylltiad cywir y cynwysyddion gan y gallant ffrwydro'n hawdd os ydynt wedi'u cysylltu yn anghywir.
|
24 |
Ymchwilio i’r egni sy’n cael ei storio mewn cynhwysydd |
A2 Uned 4.1 Cynhwysiant |
|
25 |
Ymchwilio i’r grym ar gerrynt mewn maes magnetig |
A2 Uned 4.4 Meysydd magnetig |
|
26 |
Defnyddio chwiliedydd Hall i ymchwilio i ddwysedd fflwcs |
A2 Uned 4.4 Meysydd magnetig |
|
Cliciwch yma am yr atebion i’r cwestiynau Ffiseg, os gwelwch chi’n dda.