Ffiseg

20. Mesur cynhwysedd gwres sbesiffig solid

  • 00:21 Beth yw'r tymheredd terfynol priodol, yn eich barn chi?
  • 01:38 Cymharwch eich ateb gyda’r gwerth sydd mewn llyfr data. A oedd y gwerth y gwnaethoch chi ei gyfrifo ar gyfer cynhwysedd thermol sbesiffig yn rhy uchel neu'n rhy isel?
  • Pa un o'r mesuriadau a wnaethoch sy’n debygol o gael yr ansicrwydd mwyaf? Ydy'r ansicrwydd yn golygu gwerth mwy na'r gwir werth ynteu'n llai? Pam?
  • blociau 1 kg ar gyfer cynhwysedd thermol

  • gwresogydd troch 12 V (60 W fel arfer)

  • thermomedr, 0 – 100oC

  • cyflenwad pŵer, cyfradd 0 – 12 V i gyflenwi 6 A

  • gwifrau 4 mm

  • dau amlfesurydd digidol

  • stopwatsh

Perygl Risg Mesur rheoli

Gwres

Gall metelau poeth achosi llosgiadau difrifol.

Dylid gwisgo sbectol ddiogelwch a thrin y cyfarpar gyda gefel.