Ffiseg

15. Mesur indecs plygiant defnydd

  • bloc petryal o wydr neu Perspex

  • blwch pelydru neu lamp opteg, 1 lens silindrog, 1 hollt sengl

  • cyflenwad pŵer

  • gwifrau

  • onglydd

  • papur gwyn plaen A4

  • amodau cysgodol neu dywyll

Perygl Risg Mesur rheoli

Labordy wedi ei dywyllu

Anaf corfforol os yn baglu ar wrthrych.

Labordy wedi ei dywyllu neu cysgodol - byddwch yn ofalus o beryglon baglu gan y byddwch yn gweithio o dan amodau ble mae goleuadau wedi eu lleihau. Sicrhewch nad oes unrhyw beth ar y llawr a allai fod yn berygl a gwnewch yn siŵr mai dim ond yr offer a'r cyfarpar angenrheidiol i chi sydd ar eich man gweithio.