Ffiseg

13. Defnyddio gratin diffreithiant i fesur tonfedd

  • pen laser

  • stand a chlamp

  • gratin diffreithiant

  • sgrin

  • riwl fetr

  • riwl 30 cm neu galiperau digidol

Perygl Risg Mesur rheoli

Laser

Mae laserau yn cynhyrchu golau dwys dros ben a all niweidio y retina.

Dylid gwisgo sbectol ddiogelwch ac NI DDYLEN NHW BYTH EDRYCH yn uniongyrchol ar y pelydr laser.

Peryglon baglu

Labordy tywyll - byddwch yn ofalus o beryglon baglu gan y byddwch yn gweithio yn y tywyllwch.

Sicrhewch nad oes unrhyw beth ar y llawr a allai fod yn berygl a gwnewch yn siŵr mai dim ond yr offer a'r cyfarpar angenrheidiol sydd gennych chi ar eich gweithle.