Ffiseg

09. Amrywiad gwrthiant gyda thymheredd mewn gwifren

  • 00:33 Rhaid i'r ohmedr fod mewn cyfres gyda'r coil. Pam mae hyn?
  • 01:27 Mae'n rhaid i'r tymheredd fod yn sefydlog cyn dechrau gwresogi. Pam?
  • 01:58 Pa newidyn sy’n cael ei blotio ar bob echelin? Pam NAD yw’r graff yn mynd drwy'r tarddbwynt?
  • gwresogydd Bunsen, trybedd, rhwyllen a stand

  • bicer 250 ml o ddŵr neu faddon dŵr ag elfen wresogi


  • thermomedr 0 – 100oC

  • amlfesurydd wedi'i osod ar amrediad ohm i fesur gwrthiant

  • coil copr

  • tröydd

Perygl Risg Mesur rheoli

Dŵr poeth

Gall dŵr poeth achosi llosgiadau difrifol

Dylid gwisgo sbectol ddiogelwch a thrin offer gyda gefel.