Ffiseg

07. Ymchwilio i briodweddau I–V ffilament lamp a gwifren fetel ar dymheredd cyson

  • 00:30 Mae'r amedr yn mesur y cerrynt a rhaid ei gysylltu mewn cyfres. Pam?
  • 00:36 Mae'r foltmedr yn mesur y gwahaniaeth potensial (g.p.) Pam mae’n rhaid ei gysylltu mewn paralel?
  • 00:47 Pa un yw’r newidyn annibynnol a pha rai yw’r newidynnau dibynnol?
  • 00:54 Beth yw’r:
    -newidyn annibynnol?
    -newidyn dibynnol?
  • Pa newidyn ddylid ei blotio ar bob echelin?
  • cyflenwad foltedd c.u. newidiol

  • switsh

  • amedr

  • foltmedr

  • cydran, naill ai ar ffurf bwlb ffilament e.e. bwlb 12 V,   24 W neu wifren fetel e.e. wifren gonstantan 1 m o hyd wedi'i mowntio ar astell bren

Perygl Risg Mesur rheoli

Trydanol

Gwres - gall gwifrau fynd yn boeth.

Dylid gwisgo sbectol diogelwch a chysylltu’r pŵer wrth gymryd mesuriadau’n unig.