Ffiseg

03. Mesur g drwy ddisgyn yn rhydd

  • 00:45 Beth yw’r gwahaniaeth rhwng trachywiredd a manwl gywirdeb?
  • 01:27 Ni ddylai unrhyw fesuriadau a wneir yma gael eu defnyddio fel canlyniadau. Pam?
  • 01:56 Beth yw ystyr y term paralacs?
  • 02:01 Dylid cynnal y prawf hwn o leiaf dair gwaith. Pam ddylen ni gynnal y mesuriad dair gwaith?
  • 02:09 Pa un yw’r newidyn dibynnol? Pa fesuriadau eraill y dylen ni eu cymryd?
  • 02:18 Pa amrediad o fesuriadau ddylid eu defnyddio?
  • Faint o fesuriadau uchder gwahanol ddylid eu defnyddio?
  • Faint o ailadrodd mesuriadau y dylid eu gwneud ar bob uchder?
  • 02:24 Beth sy’n cael ei blotio ar echelin-x?
  • Beth sy’n cael ei blotio ar echelin-y?
  • 02:30 Gan mai dim ond un set o fesuriadau yr ydym ni wedi eu cwblhau, nid ydym yn gwybod eto a fydd y graff yn llinell syth neu yn gromlin?
  • Sawl pwynt sydd eu hangen ar gyfer:
    - llinell syth?
    - cromlin?
  • A ddylai’r graff fod yn gromlin neu linell syth?
  • 02:40 Pa welliannau ydych chi'n meddwl y gellid eu gwneud i'r dull yn yr arbrawf hwn?
  • 02:47 Mae’r graddiant a fesurir yn hafal i ½ gwerth g. Pam?
  • sffêr metel

  • electromagnet

  • switsh Magnetig SPST (pegwn sengl, agor a chau)

  • amserydd electronig

  • plât metel

  • torri’r cyswllt

  • riwl fetr neu dâp mesur sydd â chydraniadau milimetr

  • cyflenwad pŵer CU, foltedd isel

  • gwifrau a chysylltyddion

  • papur graff, pensil, riwl ac ati

  • stand retort a bòs (i ddal yr electromagnet)

Perygl Risg Mesur rheoli

Cyswllt gyda'r bêl

Os bydd y bêl yn methu'r plât gall achosi niwed i'r corff

Darparwch gaead blwch a’i ben i waered, i ddal y bêl ar ôl iddi ddisgyn.