Ffiseg
03. Mesur g drwy ddisgyn yn rhydd
- 00:45 Beth yw’r gwahaniaeth rhwng trachywiredd a manwl gywirdeb?
- 01:27 Ni ddylai unrhyw fesuriadau a wneir yma gael eu defnyddio fel canlyniadau. Pam?
- 01:56 Beth yw ystyr y term paralacs?
- 02:01 Dylid cynnal y prawf hwn o leiaf dair gwaith. Pam ddylen ni gynnal y mesuriad dair gwaith?
- 02:09 Pa un yw’r newidyn dibynnol? Pa fesuriadau eraill y dylen ni eu cymryd?
- 02:18 Pa amrediad o fesuriadau ddylid eu defnyddio?
- Faint o fesuriadau uchder gwahanol ddylid eu defnyddio?
- Faint o ailadrodd mesuriadau y dylid eu gwneud ar bob uchder?
- 02:24 Beth sy’n cael ei blotio ar echelin-x?
- Beth sy’n cael ei blotio ar echelin-y?
- 02:30 Gan mai dim ond un set o fesuriadau yr ydym ni wedi eu cwblhau, nid ydym yn gwybod eto a fydd y graff yn llinell syth neu yn gromlin?
- Sawl pwynt sydd eu hangen ar gyfer:
- llinell syth?
- cromlin? - A ddylai’r graff fod yn gromlin neu linell syth?
- 02:40 Pa welliannau ydych chi'n meddwl y gellid eu gwneud i'r dull yn yr arbrawf hwn?
- 02:47 Mae’r graddiant a fesurir yn hafal i ½ gwerth g. Pam?
sffêr metel
electromagnet
switsh Magnetig SPST (pegwn sengl, agor a chau)
amserydd electronig
plât metel
torri’r cyswllt
riwl fetr neu dâp mesur sydd â chydraniadau milimetr
cyflenwad pŵer CU, foltedd isel
gwifrau a chysylltyddion
papur graff, pensil, riwl ac ati
stand retort a bòs (i ddal yr electromagnet)
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Cyswllt gyda'r bêl |
Os bydd y bêl yn methu'r plât gall achosi niwed i'r corff |
Darparwch gaead blwch a’i ben i waered, i ddal y bêl ar ôl iddi ddisgyn. |