Cemeg

22. Cynllunio cyfres o brofion i adnabod cyfansoddion organig

  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio 

  • menig tafladwy ar gael (neu fenig tymor hir addas nel nitrilau)

  • tiwbiau profi â chaeadau

  • tiwbiau berwi

  • biceri bach

  • rheseli tiwbiau profi

  • papur litmws coch a glas neu bapur dangosydd arall tebyg

  • hydoddiant NaOH 2 mol dm-3

  • hydoddiant H2SO4 1 mol dm-3

  • NaHCO3

  • 2,4-DNPH

  • defnyddiau i baratoi adweithydd Tollens

  • defnyddiau i baratoi adweithydd y prawf iodofform

  • NaNO2

Perygl Risg Mesur rheoli

2 mol dm-3 hydoddiant NaOH - cyrydol

Cyffwrdd â’r llygaid/croen.

Croen: trochwch â dŵr.
Llygad: golchwch â dŵr tap (10 munud)

1 mol dm-3 hydoddiant H2SO4 - llidol.

Cyffwrdd â’r llygaid/croen.

Croen: trochwch â dŵr.
Llygad: golchwch â dŵr tap (10 munud)

2,4-DNPH – fflamadwy, perygl iechyd cymhedrol.

Cyffwrdd â’r llygaid/croen.

Llygaid: golchwch â digonedd o ddŵr tap (20 munud). Cysylltwch â meddyg. Parhewch i olchi â dŵr tra’n teithio at y meddyg. 

0.1 mol dm-3 hydoddiant NH3 – dim perygl.

Cyffwrdd â’r llygaid/croen

Croen: trochwch â dŵr.
Llygaid: golchwch â digon o ddŵr (10 munud). 

0.1 mol dm-3 hydoddiant AgNO3 – llidol.

Cyffwrdd â’r llygaid/croen

Croen: golchi â dŵr

Sodiwm nitrad(III), sodiwm nitrad (NaNO2) – ocsidiol, gwenwynig iawn, peryglus i’r amgylchfyd dyfrol.

Cyffwrdd â’r llygaid/croen, dillad

Gwaredu o fewn 30 mun. Llygaid: golchi â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg. Croen: golchi â dŵr.

1-aminobwtan (CH3(CH2)3NH2) – fflamadwy, niweidiol, cyrydol. Agorwch yn araf (rhag ofn bod pwysedd wedi cronni) 

Gall gynnau os yn agos at fflam. Niweidiol os yn cyffwrdd croen/llygaid (llosgiadau difrifol). Llidol i’r ysgyfaint.

Llygaid: golchi â dŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg os yw’r boen yn parhau. 

Bensenecarbaldehyd (C6H5CHO) – perygl iechyd cymhedrol

Bwyta / yn y geg. Gall gynnau os yn agos at fflam. Cyffwrdd â’r llygaid

Croen: brwsio’r gormodedd o’r croen. Golchi â digon o ddŵr. Llygaid: golchi â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg. Dillad: golchi a rinsio’n drylwyr

Bwtanon – fflamadwy, perygl iechyd cymhedrol

Gall gynnau os yn agos at fflam. Cyffwrdd â’r croen/llygaid.

Diffodd â phlanced dân.

Deuffenylmethanon – fflamadwy, perygl iechyd difrifol, peryglus i’r amgylchfyd dyfrol.

Cyffwrdd llygaid / croen.

Diffodd â phlanced dân. Llygaid: golchi â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg.

Ethylbensencarbocsylad – perygl iechyd cymhedrol.

Cyffwrdd llygaid / croen.

Croen: brwsio’r gormodedd i ffwrdd. Golchi â digon o ddŵr. Llygaid: golchi â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg.

Ethanamid– perygl iechyd difrifol.

Cyffwrdd llygaid / croen.

Croen: brwsio’r gormodedd i ffwrdd. Golchi â digon o ddŵr. Llygaid: golchi â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg.

Bensencarbonitril – perygl iechyd cymhedrol.

Cyffwrdd â’r croen.

Croen: brwsio’r gormodedd i ffwrdd. Golchi â digon o ddŵr