Cemeg

21. Synthesis dau gam

  • 01:01 Beth sy’n cael ei ffurfio pan fo’r tymheredd yn uwch na 10oC?
  • 01:15 Pam mae angen golchi’r cynnyrch ag ethanol? 
  • 01:20 Pam mae’n rhaid defnyddio’r cyfaint lleiaf o fethanol poeth?
  • 02:11 Beth yw’r rheswm am ychwanegu asid ar y cam hwn? 
  • 02:25 Pam defnyddio’r cyfaint lleiaf yn unig o HCl? 
  • 02:35 Sut ydych chi’n gwybod pa mor bur yw eich sampl? 
  • 02:41 Beth sy’n effeithio ar gynnyrch canrannol?
  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio

  • clorian 3 lle degol (2 le degol o leiaf)

  • iâ 

  • sbatwla

  • bad pwyso

  • 2 x fflasg gonigol 100 cm3

  • silindr mesur 25 cm3

  • baddon iâ

  • piped Pasteur â theth rwber

  • rhoden droi wydr

  • bicer 250 cm3

  • twmffat Buchner a’r cyfarpar sugno

  • papur hidlo

  • silindr mesur 10 cm3

  • baddon dŵr poeth

  • fflasg fongron neu fflasg siâp gellygen

  • cyddwysydd adlifo

  • thermomedr

  • sampl ffiol

  • labeli / pin ffelt (inc parhaol)

  • gronigion gwrth-ysgytiad

  • mantell wresogi / gwresogydd Bunsen a baddon dŵr

  • stand, clamp a bos 

  • cyfarpar ymdoddbwynt / tiwb Thiele

  • tiwb capilari

Perygl Risg Mesur rheoli

Hydoddiant H2SO4 - cyrydol

Cyffwrdd llygaid/croen.

Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg.
Croen: sychwch y gormodedd gan ddefnyddio tywel sych. Trochwch â dŵr. 

Methylbensencarbocsilad (C6H5COOCH3) – llidol.

Gall gynnau os yn agos at fflam

Diffodd gan ddefnyddio planced dân

Hydoddiant HNO3 crynodedig - cyrydol.

Cyffwrdd llygaid/croen

Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg.
Croen: sychwch y gormodedd gan ddefnyddio tywel sych. Trochwch â dŵr. 

Methanol (CH3OH) – fflamadwy, gwenwynig iawn, perygl iechyd difrifol.

Gall gynnau os yn agos at fflam. Cyffwrdd llygaid/croen neu ei lyncu. 

Diffoddwch gan ddefnyddio planced dân.
Croen: golchwch gan ddefnyddio dŵr.
Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg. Llyncu: golchwch y geg â dŵr. Peidiwch â pheri i’r person chwydu. Mae yfed sipiau bach o ddŵr yn gymorth i oeri’r gwddf. Cysylltwch â meddyg.

Sodiwm hydrocsid solid – cyrydol

Cyffwrdd llygaid/croen.

Llygad: golchwch yn barhaus â dŵr tap (20 munud). Cysylltwch â meddyg a pharhau i olchi’r llygad tra’n teithio at y meddyg.
Croen: trochwch â dŵr.  

Hydoddiant HCl crynodedig – cyrydol

Cyffwrdd llygaid/croen

Croen: sychwch y gormodedd gan ddefnyddio tywel sych. Golchwch â digonedd o ddŵr.
Llygad: golchwch â digon o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg. 

Hydoddiant 0.1 mol dm-3 HCl – llidol.

Cyffwrdd llygaid/croen

Croen: trochwch â dŵr.
Llygad: golchwch â digon o ddŵr tap (10 munud).