21. Synthesis dau gam
- 01:01 Beth sy’n cael ei ffurfio pan fo’r tymheredd yn uwch na 10oC?
- 01:15 Pam mae angen golchi’r cynnyrch ag ethanol?
- 01:20 Pam mae’n rhaid defnyddio’r cyfaint lleiaf o fethanol poeth?
- 02:11 Beth yw’r rheswm am ychwanegu asid ar y cam hwn?
- 02:25 Pam defnyddio’r cyfaint lleiaf yn unig o HCl?
- 02:35 Sut ydych chi’n gwybod pa mor bur yw eich sampl?
- 02:41 Beth sy’n effeithio ar gynnyrch canrannol?
dŵr wedi’i ddad-ioneiddio
clorian 3 lle degol (2 le degol o leiaf)
iâ
sbatwla
bad pwyso
2 x fflasg gonigol 100 cm3
silindr mesur 25 cm3
baddon iâ
piped Pasteur â theth rwber
rhoden droi wydr
bicer 250 cm3
twmffat Buchner a’r cyfarpar sugno
papur hidlo
silindr mesur 10 cm3
baddon dŵr poeth
fflasg fongron neu fflasg siâp gellygen
cyddwysydd adlifo
thermomedr
sampl ffiol
labeli / pin ffelt (inc parhaol)
gronigion gwrth-ysgytiad
mantell wresogi / gwresogydd Bunsen a baddon dŵr
stand, clamp a bos
cyfarpar ymdoddbwynt / tiwb Thiele
tiwb capilari
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Hydoddiant H2SO4 - cyrydol |
Cyffwrdd llygaid/croen. |
Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg. |
Methylbensencarbocsilad (C6H5COOCH3) – llidol. |
Gall gynnau os yn agos at fflam |
Diffodd gan ddefnyddio planced dân |
Hydoddiant HNO3 crynodedig - cyrydol. |
Cyffwrdd llygaid/croen |
Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg. |
Methanol (CH3OH) – fflamadwy, gwenwynig iawn, perygl iechyd difrifol. |
Gall gynnau os yn agos at fflam. Cyffwrdd llygaid/croen neu ei lyncu. |
Diffoddwch gan ddefnyddio planced dân. |
Sodiwm hydrocsid solid – cyrydol |
Cyffwrdd llygaid/croen. |
Llygad: golchwch yn barhaus â dŵr tap (20 munud). Cysylltwch â meddyg a pharhau i olchi’r llygad tra’n teithio at y meddyg. |
Hydoddiant HCl crynodedig – cyrydol |
Cyffwrdd llygaid/croen |
Croen: sychwch y gormodedd gan ddefnyddio tywel sych. Golchwch â digonedd o ddŵr. |
Hydoddiant 0.1 mol dm-3 HCl – llidol. |
Cyffwrdd llygaid/croen |
Croen: trochwch â dŵr. |