Cemeg

20. Synthesis cynnyrch organig solid

  • 00:30 Beth yw rol yr asid ffosfforig?
  • 00:32 Beth yw’r cynnyrch?
  • 00:40 Sut ydych chi’n gwybod bod y solid wedi hydoddi? 
  • 00:54 Pam rhoi’r bicer mewn baddon ?
  • 01:15 Pam defnyddio’r cyfaint lleiaf o ethanol?
  • 01:17 Pam defnyddio ethanol cynnes?
  • 01:39 Ble mae’r amhureddau ar hyn o bryd? 
  • 01:57 Sut gallwch chi asesu a yw eich sampl yn bur? 
  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio 

  • clorian 3 lle degol (2 le degol o leiaf)

  • fflasg siâp gellygen 25 cm3

  • silindr mesur 10 cm3

  • baddon dŵr poeth

  • baddon iâ

  • rhoden droi

  • twmffat Buchner a’r cyfarpar sugno

  • gwydr oriawr

  • sampl ffiol

  • labeli / pin ffelt (inc parhaol)

  • papur hidlo

  • cyfarpar ymdoddbwynt / tiwb Thiele

  • tiwb capilari

Perygl Risg Mesur rheoli

asid 2-hydrocsiybensencarbocsilig (solid gwyn) – perygl iechyd cymhedrol, cyrydol.

Cyffwrdd â’r llygaid. Bwyta/yn y geg.

Llygad: golchi â digonedd o ddŵr tap (10 munud).

Ethanöig anhydrid (CH3CO)2O – fflamadwy, perygl iechyd cymhedrol, cyrydol.

Cyffwrdd â’r llygaid. Mewnanadlu

Llygad: golchi â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg.
Ysgyfaint: digon o awyr iach. Cysylltwch â meddyg. 

Hydoddiant H3PO4 - cyrydol

Cyffwrdd â’r llygaid/croen

Llygad: golchi â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg.
Croen: defnyddiwch glwt sych i dynnu’r gormodedd ac yna ei drochi â dŵr.