Cemeg

19. Synthesis cynnyrch organig hylifol

  • 00:25 Pam mae’n rhaid gweithio mewn cwpwrdd gwyntyllu?
  • 00:34 Pam mae’n well defnyddio caead neu blwg?
  • 00:37 Pam oeri’r asid?
  • 00:44 Beth yw rôl y calsiwm clorid?
  • 00:50 Pa fath o adwaith sy’n digwydd?
  • 01:29 Beth sydd yn yr haen dyfrllyd?
  • 01:44 Beth yw rôl yr hydrogencarbonad?
  • 01:49 Beth sy’n achosi’r ewyn?
  • 02:00 Beth ydych chi’n ei wybod am ddwysedd cymharol yr haen uchaf?  
  • 02:15 Beth yw rôl y magnesiwm sylffad?
  • 02:20 Pam mae’r lliw llaethog yn diflannu ar ôl ychwanegu’r magnesiwm sylffad?
  • 02:25 Beth allai digwydd pe byddai gormod o fagnesiwm sylffad yn cael ei ychwanegu? 
  • 02:59 Beth yw stoiciometreg yr adwaith?
  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio

  • clorian 2 le degol 

  • fflasg fongron 100 cm3

  • fflasg gonigol 100 cm3

  • fflasg gonigol 100 cm3 â chaead

  • silindr mesur 50 cm3

  • silindr mesur 10 cm3

  • twmffat gwahanu 50 cm3

  • baddon-rhew

  • cyddwysydd adlifo

  • thermomedr

  • ffiol sampl

  • labeli / pin-ffelt (inc parhaol)

  • gronigion gwrth-ysgytiad

  • mantell wresogi / gwresogydd Bunsen a baddon dŵr

  • stand a chlamp

  • twndis/twmffat â gwlân cotwm 

Perygl Risg Mesur rheoli

(CH3)3COH – fflamadwy a llidol.

Gall yr anwedd gynnau pan fo’n agos at fflam. Cyffwrdd â’r llygaid. Gellir ei fewnanadlu

Diffoddwch y fflamau gan ddefnyddio planced dân. Oerwch groen sydd wedi’i losgi trwy ddefnyddio dŵr tap.
Llygad: Trochwch â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg.
Mewnanadlu’r anwedd: digon o awyr iach. Cadwch yn dwym. Cysylltwch â meddyg os ceir trafferth anadlu.

Hydoddiant HCl crynodedig – cyrydol.

Cyffwrdd â’r llygaid/ croen. Mewnanadlu’r anwedd.

Fel uchod.

CaCl2 – llidol. 

Cyffwrdd â’r llygaid/ croen

Llygad: trochwch â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg os yw’r boen yn parhau. Croen: golchwch fel y bo’n briodol.