19. Synthesis cynnyrch organig hylifol
- 00:25 Pam mae’n rhaid gweithio mewn cwpwrdd gwyntyllu?
- 00:34 Pam mae’n well defnyddio caead neu blwg?
- 00:37 Pam oeri’r asid?
- 00:44 Beth yw rôl y calsiwm clorid?
- 00:50 Pa fath o adwaith sy’n digwydd?
- 01:29 Beth sydd yn yr haen dyfrllyd?
- 01:44 Beth yw rôl yr hydrogencarbonad?
- 01:49 Beth sy’n achosi’r ewyn?
- 02:00 Beth ydych chi’n ei wybod am ddwysedd cymharol yr haen uchaf?
- 02:15 Beth yw rôl y magnesiwm sylffad?
- 02:20 Pam mae’r lliw llaethog yn diflannu ar ôl ychwanegu’r magnesiwm sylffad?
- 02:25 Beth allai digwydd pe byddai gormod o fagnesiwm sylffad yn cael ei ychwanegu?
- 02:59 Beth yw stoiciometreg yr adwaith?
dŵr wedi’i ddad-ioneiddio
clorian 2 le degol
fflasg fongron 100 cm3
fflasg gonigol 100 cm3
fflasg gonigol 100 cm3 â chaead
silindr mesur 50 cm3
silindr mesur 10 cm3
twmffat gwahanu 50 cm3
baddon-rhew
cyddwysydd adlifo
thermomedr
ffiol sampl
labeli / pin-ffelt (inc parhaol)
gronigion gwrth-ysgytiad
mantell wresogi / gwresogydd Bunsen a baddon dŵr
stand a chlamp
twndis/twmffat â gwlân cotwm
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
(CH3)3COH – fflamadwy a llidol. |
Gall yr anwedd gynnau pan fo’n agos at fflam. Cyffwrdd â’r llygaid. Gellir ei fewnanadlu |
Diffoddwch y fflamau gan ddefnyddio planced dân. Oerwch groen sydd wedi’i losgi trwy ddefnyddio dŵr tap. |
Hydoddiant HCl crynodedig – cyrydol. |
Cyffwrdd â’r llygaid/ croen. Mewnanadlu’r anwedd. |
Fel uchod. |
CaCl2 – llidol. |
Cyffwrdd â’r llygaid/ croen |
Llygad: trochwch â digon o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg os yw’r boen yn parhau. Croen: golchwch fel y bo’n briodol. |