Cemeg

14. Titradiad rhydocs syml

  • 00:49 Pam mae’n bwysig peidio â defnyddio dŵr o’r tap?  
  • 01:18 Pam mae’n bwysig troi’r fflasg â’i phen i waered sawl tro? 
  • 01:39 Pam ydym ni’n mesur yr hydoddiant manganad(VII) o DOP y menisgws ac nid o’r gwaelod? 
  • 01:44 Ydych chi’n gwybod ble i edrych ar y fwred er  mwyn canfod sawl ffigur ystyrlon y dylid ei gofnodi?
  • clorian ddigidol 3 lle degol ar gael (2 le degol o leiaf)

  • sbectol ddiogelwch

  • bwred 50.0 cm³ a thwmffat

  • piped safonol (cyfeintiol) 25.0 cm³ a llenwydd

  • fflasgiau conigol 250 cm³

  • fflasg gyfeintiol (safonol) 250 cm³

  • piped Pasteur

Perygl Risg Mesur rheoli

Halwyn haearn anhysbys

Niweidiol

Cyffwrdd â’r llygaid / croen

Mewnanadlu’r llwch

Llygad: golchwch â digon o ddŵr (10 munud)
Cysylltwch â meddyg
Croen: golchwch â dŵr
Symud i gael awyr iach. Os ceir trafferth anadlu, cysylltwch â meddyg. 

1.0mol dm-3 hydoddiant H2SO4

Llidol

Cyffwrdd â’r llygaid / croen

Mewnanadlu’r llwch

Llygad: golchwch â digon o ddŵr (10 munud)
Cysylltwch â meddyg
Croen: golchwch â dŵr
Symud i gael awyr iach. Os ceir trafferth anadlu, cysylltwch â meddyg. 

Hydoddiant safonol KMnO4 (~0.02mol dm-3)

Cyffwrdd â’r croen
(mae’n staenio’r croen)

Golchwch gan ddefnyddio sebon