Cemeg
12. Paratoi ester a’i wahanu drwy ddistyllu
- 00:33 Beth yw gronigion gwrth-ysgytiad a sut maen nhw’n gweithio?
- 00:45 Pam mae chwyrlio’r fflasg yn gwneud y dull yn fwy diogel?
- 00:48 Beth yw tymheredd berwi ethyl ethanoad?
- 00:53 Pam mae tymheredd y baddon dŵr yn bwysig?
- 01:04 Beth yw pwrpas y rhwyllen?
- 01:21 Pam mae lleoliad bwlb y thermomedr yn bwysig?
- 01:27 Beth yw’r ‘distyllad’?
- 01:27 Beth yw tymheredd berwi'r cynnyrch? Pam mae hyn yn bwysig i'w ystyried ar hyn o bryd?
- 01:45 Sut mae’r tymheredd hwn yn cymharu â data sydd wedi cael ei gyhoeddi?
fflasg fongron 100 cm3
bicer 100 cm3
fflasg gonigol 100 cm3
silindr mesur 10 cm3
silindr mesur 25 cm3
cyddwysydd adlifo
thermomedr
tiwb sbesimen
labeli / pin-ffelt (inc parhaol)
gronigion gwrth-ysgytiad
baddon dŵr (~50oC)
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
ethanol – fflamadwy iawn |
Gall danio oherwydd fflam y gwresogydd Bunsen. |
Dillad ar dân: mygwch y fflamau gan ddefnyddio planced dân. Oerwch groen sydd wedi cael llosg o dan y tap (10 munud). |
asid ethanoig– llidol |
Cyffwrdd â’r llygaid/croen. |
Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr (10 munud) Croen: trochwch â digonedd o ddŵr |
hydoddiant H2SO4 crynodedig – cyrydol |
Cyffwrdd â’r llygaid/croen. |
Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg. |