Cemeg
11. Adwaith amnewid niwcleoffilig
- 00:40 Beth yw ‘ysgytiad’? Sut mae’r gronigion gwrth-ysgytiad yn gweithio?
- 00:55 Beth sy’n digwydd yn ystod adlifo?
- 01:23 Beth yw pwrpas y rhwyllen?
- 01:40 Beth yw manteision mantell wresogi o’i chymharu â gwresogydd Bunsen?
- 01:50 Beth yw pwrpas y thermomedr?
- 02:13 Beth yw tymheredd yr anwedd?
- 02:21 Sut y gellir profi am y cynnyrch?
fflasg fongron 100 cm3
bicer 100 cm3
fflasg gonigol 100 cm3
silindr mesur 25 cm3
cyddwysydd adlifo
thermomedr
tiwb sbesimen
labeli / pin-ffelt (inc parhaol)
gronigion gwrth-ysgytiad
mantell wresogi / gwresogydd Bunsen a baddon dŵr
Stand clamp
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
0.1mol dm-3 hydoddiant NaOH – dim perygl |
Cyffwrdd â’r llygaid / croen. |
Llygad: golchi â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Croen: golchi â digonedd o ddŵr. |
1-bromobwtan – fflamadwy,perygl iechyd difrifol, peryglus i’r amgylchedd dŵr. |
Gall gynnau pan fo’n agos at wresogydd Bunsen. Cyffwrdd â’r llygaid a’r croen. |
Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr – cysylltwch â meddyg. |