Cemeg

09. Defnyddio dull casglu nwy i ymchwilio i gyfradd adwaith

  • 00:39 Pam mae’n well clampio’r chwistrell ar uchder isel?
  • 00:43 Pam mae angen i chi wneud hyn yn gyflym?     
  • 00:56 Beth allai digwydd os caniateir i’r chwistrell barhau i lenwi â nwy? 
  • 01:13 Sut y byddech chi’n creu crynodiad HCl gwahanol? 
  • 01:19 Beth yw’r berthynas rhwng y ddau newidyn?
  • clorian ddigidol 3 lle degol ar gael (2 le degol o leiaf)

  • sbectol ddiogelwch

  • fflasg gonigol 250 cm³

  • chwistrell nwy 100 cm³ â thiwb trosglwyddo a chaead rwber

  • silindr mesur 50 cm³

  • bad pwyso

  • sbatwla

  • stopwats

  • clamp a stand 

Perygl Risg Mesur rheoli

2mol dm-3 HCl

Cyffwrdd â’r llygaid / croen

Llygad: Golchi â digonedd o ddŵr o’r tap (10 munud)

Croen: Trochwch â dŵr 

Powdr CaCO3

Cyffwrdd â’r llygaid

Llygad: golchi â digonedd o ddŵr o’r tap (10 munud)

Os mae’r boen yn parhau, cysylltwch â meddyg