Cemeg

08. Mesur newid enthalpi hylosgiad

  • 00:35 Pam mae’n bwysig cadw’r caead yn ei le ar y llosgydd pan nad yw’n cael ei ddefnyddio? 
  • 00:43 Pam mae’n bwysig gwybod tymheredd cychwynnol y dŵr?
  • 00:48 Pam mae’n bwysig tynnu’r fflewyn sy’n llosgi i  ffwrdd yn gyflym wedi cynnau’r wic? 
  • 00:53 Pam nad yw’n bwysig ceisio cael cynnydd tymheredd o 40oC yn union? 
  • 00:58 Pam mae’r caead yn diffodd y fflam?
  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio 

  • clorian ddigidol 3 lle degol (2 le degol o leiaf)

  • stand clamp 

  • fflasg gonigol 250 cm3

  • llosgydd gwirod

  • mat gwrthwres

  • thermomedr

Perygl Risg Mesur rheoli

Ethanol – fflamadwy iawn Methanol – fflamadwy, gwenwynig iawn a pherygl iechyd difrifol.

Os nad yw’r llosgydd yn cael ei ddiffodd yn gywir, mae gwirod sydd wedi gollwng o’r llosgydd o gwmpas y wic yn gallu tanio.

Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr tap (10 munud).
Croen / dillad: diffoddwch y fflamau gan ddefnyddio planced dân neu ddefnydd arall addas. Oerwch groen sydd wedi cael llosg o dan y tap (10 munud).