Cemeg

07. Mesur newid enthalpi adwaith yn anuniongyrchol

  • 00:22 Pam ddim defnyddio bicer gwydr fel calorimedr? 
  • 00:42 Pam aros ychydig cyn mesur tymheredd? 
  • 01:00 Pam mae'n bwysig cael y thermomedr ar lefel llygad? 
  • 01:07 Pam mae'n bwysig mesur tymheredd HCl ar gyfer y cyfnod cychwynnol hwn?
  • 01:31 Pam defnyddio ffoil i orchuddio'r calorimedr?
  • 01:35 Pam mae’n bwysig parhau i droi’r cymysgedd?
  • 01:41 Pam mae'n bwysig cadw'r ffoil yn ei le wrth fesur y tymheredd?   
  • 01:49 Pam mae’r tymheredd yn gostwng? I ble mae’r gwres yn mynd?
  • 01:58 Pam mae’n bwysig ail-bwyso’r bad pwyso?
  • 02:10 Pam mae’n bwysig i allosod yn ôl i’r pwynt  cymysgu (3 munud) ac nid mesur ΔT o’r pwynt 3 munud a 30 eiliad?
  • clorian ddigidol 3 lle degol ar gael (2 le degol o leiaf)

  • thermomedr

  • calorimedr syml

  • piped safonol (cyfeintiol) 25.0 cm³ a llenwydd diogelwch 

  • stopwats

  • sbatwla

  • bad/cwch pwyso 

Perygl Risg Mesur rheoli

Hydoddiant 2 mol dm-3 HCl

Cyffwrdd llygaid a croen

Llygad: Golchwch gyda dŵr tap (10 munud)

Croen: Golchwch yn drylwyr gan ddefnyddio dŵr tap

MgCO3 & MgO sych

Cyffwrdd llygaid 

Llygad: Golchwch gyda dŵr tap (10 munud)