Cemeg
07. Mesur newid enthalpi adwaith yn anuniongyrchol
- 00:22 Pam ddim defnyddio bicer gwydr fel calorimedr?
- 00:42 Pam aros ychydig cyn mesur tymheredd?
- 01:00 Pam mae'n bwysig cael y thermomedr ar lefel llygad?
- 01:07 Pam mae'n bwysig mesur tymheredd HCl ar gyfer y cyfnod cychwynnol hwn?
- 01:31 Pam defnyddio ffoil i orchuddio'r calorimedr?
- 01:35 Pam mae’n bwysig parhau i droi’r cymysgedd?
- 01:41 Pam mae'n bwysig cadw'r ffoil yn ei le wrth fesur y tymheredd?
- 01:49 Pam mae’r tymheredd yn gostwng? I ble mae’r gwres yn mynd?
- 01:58 Pam mae’n bwysig ail-bwyso’r bad pwyso?
- 02:10 Pam mae’n bwysig i allosod yn ôl i’r pwynt cymysgu (3 munud) ac nid mesur ΔT o’r pwynt 3 munud a 30 eiliad?
clorian ddigidol 3 lle degol ar gael (2 le degol o leiaf)
thermomedr
calorimedr syml
piped safonol (cyfeintiol) 25.0 cm³ a llenwydd diogelwch
stopwats
sbatwla
bad/cwch pwyso
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Hydoddiant 2 mol dm-3 HCl |
Cyffwrdd llygaid a croen |
Llygad: Golchwch gyda dŵr tap (10 munud) Croen: Golchwch yn drylwyr gan ddefnyddio dŵr tap |
MgCO3 & MgO sych |
Cyffwrdd llygaid |
Llygad: Golchwch gyda dŵr tap (10 munud) |