Cemeg

04. Safoni hydoddiant asid

  • 00:20 Pam ei bod hi’n ddefnyddiol canfod pwysau’r botel bwyso yn fras, yn gyntaf?
  • 00:45 Pam nad yw’n bwysig fod gweddillion solid yn aros yn y botel bwyso?
  • 01:05 Pam mae’n bwysig peidio ag ychwanegu’r cyfan o’r 250cm3 o ddŵr?
  • 01:21 Pam mae’n bwysig golchi’r bicer, rhoden droi a’r twmffat/twndis?
  • 01:41 Pam mae’n well defnyddio piped Pasteur er mwyn gwneud i lefel y dwr gyrraedd y graddnod? Pam mae’n bwysig troi’r fflasg â’i phen i waered nifer o weithiau? 
  • 01:51 Pam nid ysgwyd y fflasg o ochr i ochr yn unig?
  • 02:01 Pam mae’n bwysig labelu pob hydoddiant?
  • 02:11 Pam mae’n bwysig i olchi’r fwred â HCl yn lle dŵr wedi’i ddad-ioneiddio?
  • 02:18 Pam mae'n bwysig i dynnu’r twmffat bach o’r fwred?
  • 02:23 Pam mae’n bwysig cael gwared ar y swigod aer o’r chwythell?
  • 02:28 Pam mae’n bwysig defnyddio hydoddiant sodiwm carbonad yn hytrach na dŵr, i olchi’r biped safonol? 
  • 02:59 Pam mae’n bwysig i beidio ag ychwanegu gormod o ddafnau o’r dangosydd?
  • 02:44 Pam mae’n bwysig i beidio â chwythu’r hylif allan o’r biped?
  • 03:17 Pam defnyddio teilsen wen?
  • 03:20 Pam mae’n bwysig arafu’r gyfradd llifiant o’r fwred wrth agosau at y diweddbwynt?
  • 03:24 Sut ydych chi’n gwybod bod y diweddbwynt yn agos?
  • 03:26 Pam mae’n bwysig chwyrlïo’r fflasg yn barhaus?
  • 03:51 Pam nad yw’r gwerthoedd titr nad ydynt yn gytûn yn cael eu defnyddio i gyfrifo’r titr cymedrig?+
  • clorian ddigidol 3 lle degol (2 le degol o leiaf) 

  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio

  • potel/cwch/bad pwyso

  • fflasg safonol (cyfeintiol) 250 cm³ a thwndis / twmffat  

  • bicer 250 cm³ a rhoden wydr

  • labeli

  • piped Pasteur

  • Na2CO3 anhydrus

  • bwred 50 cm³ a thwndis / thwmffat  

  • clamp a stand bwred

  • piped cyfeintiol (safonol) 25 cm³ a llenwydd diogelwch 

  • 2 x fflasg gonigol 250 cm³

  • teilsen wen

  • 0.2 mol dm-3 hydoddiant HCl

  • dangosydd methyl oren

Perygl Risg Mesur rheoli

Na2CO3

Llidol - Cyffwrdd â’r llygaid

Golchwch y llygad gyda digon o ddŵr (10 munud)

Cysylltwch gyda meddyg os yw’r boen yn parhau

0.2 mol dm-3 hydoddiant HCl

Cyffwrdd â’r llygaid.

Golchwch y llygad gyda digon o ddŵr (10 munud)

Cysylltwch gyda meddyg os yw’r boen yn parhau

Dangosydd methyl oren

Fflamadwy, gwenwynig iawn, perygl iechyd difrifol, cyrydol, peryglus i’r amgylchedd dyfrol

Diffoddwch y fflam gan ddefnyddio planced dân