04. Safoni hydoddiant asid
- 00:20 Pam ei bod hi’n ddefnyddiol canfod pwysau’r botel bwyso yn fras, yn gyntaf?
- 00:45 Pam nad yw’n bwysig fod gweddillion solid yn aros yn y botel bwyso?
- 01:05 Pam mae’n bwysig peidio ag ychwanegu’r cyfan o’r 250cm3 o ddŵr?
- 01:21 Pam mae’n bwysig golchi’r bicer, rhoden droi a’r twmffat/twndis?
- 01:41 Pam mae’n well defnyddio piped Pasteur er mwyn gwneud i lefel y dwr gyrraedd y graddnod? Pam mae’n bwysig troi’r fflasg â’i phen i waered nifer o weithiau?
- 01:51 Pam nid ysgwyd y fflasg o ochr i ochr yn unig?
- 02:01 Pam mae’n bwysig labelu pob hydoddiant?
- 02:11 Pam mae’n bwysig i olchi’r fwred â HCl yn lle dŵr wedi’i ddad-ioneiddio?
- 02:18 Pam mae'n bwysig i dynnu’r twmffat bach o’r fwred?
- 02:23 Pam mae’n bwysig cael gwared ar y swigod aer o’r chwythell?
- 02:28 Pam mae’n bwysig defnyddio hydoddiant sodiwm carbonad yn hytrach na dŵr, i olchi’r biped safonol?
- 02:59 Pam mae’n bwysig i beidio ag ychwanegu gormod o ddafnau o’r dangosydd?
- 02:44 Pam mae’n bwysig i beidio â chwythu’r hylif allan o’r biped?
- 03:17 Pam defnyddio teilsen wen?
- 03:20 Pam mae’n bwysig arafu’r gyfradd llifiant o’r fwred wrth agosau at y diweddbwynt?
- 03:24 Sut ydych chi’n gwybod bod y diweddbwynt yn agos?
- 03:26 Pam mae’n bwysig chwyrlïo’r fflasg yn barhaus?
- 03:51 Pam nad yw’r gwerthoedd titr nad ydynt yn gytûn yn cael eu defnyddio i gyfrifo’r titr cymedrig?+
clorian ddigidol 3 lle degol (2 le degol o leiaf)
dŵr wedi’i ddad-ioneiddio
potel/cwch/bad pwyso
fflasg safonol (cyfeintiol) 250 cm³ a thwndis / twmffat
bicer 250 cm³ a rhoden wydr
labeli
piped Pasteur
Na2CO3 anhydrus
bwred 50 cm³ a thwndis / thwmffat
clamp a stand bwred
piped cyfeintiol (safonol) 25 cm³ a llenwydd diogelwch
2 x fflasg gonigol 250 cm³
teilsen wen
0.2 mol dm-3 hydoddiant HCl
dangosydd methyl oren
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Na2CO3 |
Llidol - Cyffwrdd â’r llygaid |
Golchwch y llygad gyda digon o ddŵr (10 munud) Cysylltwch gyda meddyg os yw’r boen yn parhau |
0.2 mol dm-3 hydoddiant HCl |
Cyffwrdd â’r llygaid. |
Golchwch y llygad gyda digon o ddŵr (10 munud) Cysylltwch gyda meddyg os yw’r boen yn parhau |
Dangosydd methyl oren |
Fflamadwy, gwenwynig iawn, perygl iechyd difrifol, cyrydol, peryglus i’r amgylchedd dyfrol |
Diffoddwch y fflam gan ddefnyddio planced dân |