Cemeg

01. Dadansoddiad grafimetrig

  • 00:21 Beth mae ‘pwyswch yn fanwl gywir oddeutu 0.3g’ yn ei olygu mewn gwirionedd?
  • 00:54 Pam nad ydym ni’n defnyddio dŵr tap?
  • 01:00  Pam nad ydym yn ychwanegu’r asid cyn y dŵr? 
  • 01:09 Pa arsylwadau cychwynnol sy'n awgrymu bod clorid yn y solet gwreiddiol? 
  • 01:19 Pam ydym ni’n ychwanegu rhagor o hydoddiant arian nitrad? 
  • 01:24 Pam mae plât poeth yn well?
  • 01:38 Beth yw cyfansoddiad tebygol yr hidlif?
  • 01:43 Pam ydym ni’n golchi’r gwaddod gyda’r hyddoddiant golch 
  • 01:48 Pam mae’n fwy effeithiol i wneud y cam yn gyflym?
  • 01:59 Pam mae’n bwysig profi’r hidlif?
  • 02:18 Sut y gwyddoch fod y dŵr i gyd wedi gadael y solid?
  • clorian ddigidol – 3 lle degol yn ddelfrydol (2 le degol o leiaf)

  • ffwrn sychu ar gael

  • 2x bicer 250 cm3

  • 2x bicer 100 cm3

  • sbatwla

  • silindr mesur 10 cm3

  • 3 x piped ddiferu

  • gwresogydd Bunsen, trybedd a rhwyllen neu blât poeth trydanol

  • twmffat hidlo

  • papur hidlo

  • potel olchi

  • sampl clorid anhysbys

  • dŵr wedi’i ddad-ioneiddio

  • 0.5 mol dm‒3 hydoddiant AgNO3

  • 6 mol dm‒3 hydoddiant HNO3

  • 2 mol dm‒3 hydoddiant HCl

  • hydoddiant golch – 4 cm3 o 6 mol dm‒3 HNO3 i bob dm3 o ddŵr wedi’i ddad-ioneiddio.

  • tybir bod sbectol ddiogelwch briodol yn cael ei gwisgo bob amser.  

Perygl Risg Mesur rheoli

0.5 mol dm-3 hydoddiant AgNO3 – cyrydol.

Cyffwrdd y croen/llygaid

Llygad: golchwch â dŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg. Croen: golchwch â digonedd o ddŵr. Cysylltwch â meddyg os yw’r llosgiad yn fwy na llosgiad bach.

6 mol dm-3 hydoddiant HNO3 – cyrydol.

Cyffwrdd y croen/llygaid.

Llygadgolchwch â dŵr tap (10 munud). Cysylltwch â meddyg 

Croen: sychwch gan ddefnyddio tywel papur ac yna 
golchwch â digonedd o ddŵr. 

2 mol dm-3 hydoddiant HCl – cyrydol.

Cyffwrdd y croen/llygaid

Llygadgolchwch â dŵr tap (10 munud) ac yna cysylltwch â meddyg 

Croen: golchwch â digonedd o ddŵr. Os ceir swigod 
ar y croen, yna cysylltwch â meddyg.