Bioleg

27. Defnyddio hadau sy'n egino i ymchwilio i dreuliad agar startsh

  • 00:22 Beth yw enw’r ensym sy’n hydrolysu startsh?
  • 00:33 Pa liw mae’r hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid yn troi ym mhresenoldeb startsh?
  • 00:35 Pam ydych chi’n gosod arwyneb yr hedyn wedi'i dorri tuag i lawr ar yr agar startsh?
  • 00:57 Pam ydych chi’n magu’r ddau blât ar dymheredd o 25°C?
  • 01:03 A oes unrhyw ran ‘glir’ ar unrhyw blât?
  • 01:09 Sut y byddech chi’n mesur arwynebedd unrhyw ran ‘glir’ yn fanwl gywir? Beth sydd wedi achosi’r rhan glir hon?
  • hadau india corn wedi'u mwydo

  • platiau agar startsh

  • teilsen wen

  • cyllell llawfeddyg

  • hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid

  • tiwb berwi

  • baddon dŵr ar 80oC

Perygl Risg Mesur rheoli

Hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid – llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud).

Agar startsh – tyfu ffyngau

Tyfu pathogenau

Risg a adwaith alergaidd

Risg o haint

Defnyddir technegau aseptig drwy gydol yr arbrawf. Deori’r platiau ar 25oC.

Cyllell llawfeddyg

Toriadau i’r croen

Torri am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff.