Bioleg
27. Defnyddio hadau sy'n egino i ymchwilio i dreuliad agar startsh
- 00:22 Beth yw enw’r ensym sy’n hydrolysu startsh?
- 00:33 Pa liw mae’r hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid yn troi ym mhresenoldeb startsh?
- 00:35 Pam ydych chi’n gosod arwyneb yr hedyn wedi'i dorri tuag i lawr ar yr agar startsh?
- 00:57 Pam ydych chi’n magu’r ddau blât ar dymheredd o 25°C?
- 01:03 A oes unrhyw ran ‘glir’ ar unrhyw blât?
- 01:09 Sut y byddech chi’n mesur arwynebedd unrhyw ran ‘glir’ yn fanwl gywir? Beth sydd wedi achosi’r rhan glir hon?
hadau india corn wedi'u mwydo
platiau agar startsh
teilsen wen
cyllell llawfeddyg
hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid
tiwb berwi
baddon dŵr ar 80oC
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid – llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Agar startsh – tyfu ffyngau Tyfu pathogenau |
Risg a adwaith alergaidd Risg o haint |
Defnyddir technegau aseptig drwy gydol yr arbrawf. Deori’r platiau ar 25oC. |
Cyllell llawfeddyg |
Toriadau i’r croen |
Torri am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff. |