Bioleg

24. Ymchwilio i niferoedd bacteria mewn llaeth

  • Pam mae'n rhaid i'r llaeth wedi’i eplesu gael ei wanedu cyn platio?
  • Pam y rhoddir tâp am y ddysgl Petri?
  • Pam y megir y meithriniad ar 25oC?
  • Beth yw y dybiaeth a wneir am y nifer o gytrefi sydd wedi eu cyfrif?
  • Beth yw cyfanswm y ffactor gwanedu y byddwch chi’n lluosi’r nifer o gytrefi a gyfrifwyd ag ef, er mwyn cael y nifer o facteria mewn 1 cm3 o’r llaeth wedi’i eplesu gwreiddiol?
  • paratoi gwanediadau

  • 2 sampl o laeth wedi'i eplesu e.e. Yakult neu Actimel, un â dyddiad olaf defnyddio'n bell i ffwrdd ac un yn agos at ei ddyddiad olaf defnyddio


  • chwistrelli 1cm3

  • chwistrell 10cm3

  • dŵr distyll

  • poteli â chaeadau sgriw e.e. poteli cyffredinol

  • platio samplau a’u tyfu nhw

  • dysglau Petri 9cm

  • agar MRS tawdd wedi'i gadw ar tua 50°C

  • tâp gludiog

  • pen marcio

  • deorydd 25oC

Perygl Risg Mesur rheoli

Tyfu microbau - halogiad â microbau eraill

Twf pathogenau

  • Magwch ar dymereddau nad ydyn nhw’n annog twf pathogenau (nid o gwmpas 37oC).
  • Peidiwch â selio’r meithriniadau’n llwyr cyn magu (neu maent yn annog twf anerobau), ond gwnewch yn siŵr nad oes modd eu hagor yn ddamweiniol.
  • Defnyddiwch offer a dulliau gweithredu di-haint.
  • Ceisiwch osgoi drafftiau (o ffenestri a drysau ar agor) a allai halogi'r meithriniadau ac achosi sborau ffyngaidd i ledaenu.
  • Gweithiwch ger y dynfa o fflam llosgydd Bunsen i helpu i atal halogiad o'r meithriniadau.
  • Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, defnyddiwch ddiheintydd addas i drin arwynebau am gyfnod addas o amser.
  • Dylech gael gwared o bob meithriniad drwy ei ddiheintio mewn ffwrn aerglos (sosban bwysedd).
  • Golchwch eich dwylo bob amser ar ôl trin meithriniadau a chyn bwyta bwyd.

Agar MRS tawdd

Risg o sgaldio

Trin gyda gofal