Bioleg
24. Ymchwilio i niferoedd bacteria mewn llaeth
- Pam mae'n rhaid i'r llaeth wedi’i eplesu gael ei wanedu cyn platio?
- Pam y rhoddir tâp am y ddysgl Petri?
- Pam y megir y meithriniad ar 25oC?
- Beth yw y dybiaeth a wneir am y nifer o gytrefi sydd wedi eu cyfrif?
- Beth yw cyfanswm y ffactor gwanedu y byddwch chi’n lluosi’r nifer o gytrefi a gyfrifwyd ag ef, er mwyn cael y nifer o facteria mewn 1 cm3 o’r llaeth wedi’i eplesu gwreiddiol?
paratoi gwanediadau
2 sampl o laeth wedi'i eplesu e.e. Yakult neu Actimel, un â dyddiad olaf defnyddio'n bell i ffwrdd ac un yn agos at ei ddyddiad olaf defnyddio
chwistrelli 1cm3
chwistrell 10cm3
dŵr distyll
poteli â chaeadau sgriw e.e. poteli cyffredinol
platio samplau a’u tyfu nhw
dysglau Petri 9cm
agar MRS tawdd wedi'i gadw ar tua 50°C
tâp gludiog
pen marcio
deorydd 25oC
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Tyfu microbau - halogiad â microbau eraill |
Twf pathogenau |
|
Agar MRS tawdd |
Risg o sgaldio |
Trin gyda gofal |