Bioleg

22. Ymchwilio i swyddogaeth nitrogen a magnesiwm wrth i blanhigion dyfu

  • 00:38 Pam ydych chi'n cydosod 5 tiwb profi o bob hydoddiant?
  • 00:56 Pam y dylech lapio ffoil o amgylch y tiwbiau?
  • 01:05 Pam mae'n rhaid i bob un o’r eginblanhigion gael eu rhoi yn yr un amodau golau a thymheredd?
  • 01:20 Pam y mesurir y màs sych?
  • 01:22 Pa wahaniaethau rhwng yr eginblanhigion ydych chi'n sylwi arnyn nhw?
  • 01:24 Pa esboniadau allwch chi eu rhoi am unrhyw wahaniaethau rhwng yr eginblanhigion y gwnaethoch arsylwi arnyn nhw a’u mesur?
  • hydoddiant meithrin dŵr cyflawn Sach

  • hydoddiant meithrin dŵr Sach heb ïonau nitrad

  • hydoddiant meithrin dŵr Sach heb ïonau magnesiwm

  • tiwbiau profi (1 i bob hydoddiant meithrin)

  • gwlân cotwm

  • ffoil alwminiwm

  • piped ddiferu

  • eginblanhigion haidd wedi egino

Perygl Risg Mesur rheoli

Cyfarpar gwydr

Mae gwydr wedi torri yn finiog

Cymerwch ofal wrth ei ddefnyddio fel nad yw yn torri. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus.