Bioleg
22. Ymchwilio i swyddogaeth nitrogen a magnesiwm wrth i blanhigion dyfu
- 00:38 Pam ydych chi'n cydosod 5 tiwb profi o bob hydoddiant?
- 00:56 Pam y dylech lapio ffoil o amgylch y tiwbiau?
- 01:05 Pam mae'n rhaid i bob un o’r eginblanhigion gael eu rhoi yn yr un amodau golau a thymheredd?
- 01:20 Pam y mesurir y màs sych?
- 01:22 Pa wahaniaethau rhwng yr eginblanhigion ydych chi'n sylwi arnyn nhw?
- 01:24 Pa esboniadau allwch chi eu rhoi am unrhyw wahaniaethau rhwng yr eginblanhigion y gwnaethoch arsylwi arnyn nhw a’u mesur?
hydoddiant meithrin dŵr cyflawn Sach
hydoddiant meithrin dŵr Sach heb ïonau nitrad
hydoddiant meithrin dŵr Sach heb ïonau magnesiwm
tiwbiau profi (1 i bob hydoddiant meithrin)
gwlân cotwm
ffoil alwminiwm
piped ddiferu
eginblanhigion haidd wedi egino
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Cyfarpar gwydr |
Mae gwydr wedi torri yn finiog |
Cymerwch ofal wrth ei ddefnyddio fel nad yw yn torri. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus. |