Bioleg

21. Ymchwilio i effaith golau ar gyfradd ffotosynthesis

  • 00:24 Pan mae ffotosynthesis yn digwydd, pa liw yw’r dangosydd?
  • 01:10 Pam mae'n rhaid i'r peli gyrraedd tymheredd yr ystafell cyn eu ddefnyddio?
  • 01:25 Pa liw yw'r hydoddiant dangosydd ar y dechrau?
  • 01:35 Pa liw yw'r hydoddiant dangosydd ar ôl goleuo?
  • 01:37 Beth mae y newid lliw yn ei ddweud wrthych am gyfradd ffotosynthesis a resbiradaeth Scenedesmus yn ystod goleuo?
  • Sut y gallech chi ddefnyddio’r dull hwn i ddarganfod sut mae tanbeidrwydd golau yn effeithio ar gyfradd ffotosynthesis? 
  • I wneud peli algaidd

  • 5cm3 o feithriniad Scenedesmus quadricauda

  • rhoden wydr

  • 3cm3 o hydoddiant sodium alginad (3%)

  • biceri

  • chwistrell 10cm3 heb nodwydd

  • dŵr distyll

  • 200cm3 calsiwm clorid (2g/100cm3)

  • hidlen te

  • I gynnal yr arbrawf

  • peli algaidd

  • ffiol wydr + caead

  • dangosydd hydrogencarbonad 10cm3

  • siart lliw i’r dangosydd (School Science Review 85 (312) 37–45) neu golorimedr â hidlydd 550nm

  • riwl fetr

  • lamp fflwroleuol

  • amserydd

Perygl Risg Mesur rheoli

Hydoddiant calsiwm clorid - llidiog i’r croen a’r llygaid

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud).

Dangosydd hydrogen carbonad - llidiog i’r llygaid

Cyffyrddiad â’r llygaid

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud).

Ffynhonnell olau yn mynd yn boeth wrth ei defnyddio

Risg o gael llosgiadau

Peidiwch â chyffwrdd y ffynhonnell olau pan mae’n cael ei defnyddio neu yn fuan wedyn.

Cyfarpar gwydr

Mae gwydr wedi torri yn finiog

Cymerwch ofal wrth ei ddefnyddio fel nad yw yn torri. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus.