21. Ymchwilio i effaith golau ar gyfradd ffotosynthesis
- 00:24 Pan mae ffotosynthesis yn digwydd, pa liw yw’r dangosydd?
- 01:10 Pam mae'n rhaid i'r peli gyrraedd tymheredd yr ystafell cyn eu ddefnyddio?
- 01:25 Pa liw yw'r hydoddiant dangosydd ar y dechrau?
- 01:35 Pa liw yw'r hydoddiant dangosydd ar ôl goleuo?
- 01:37 Beth mae y newid lliw yn ei ddweud wrthych am gyfradd ffotosynthesis a resbiradaeth Scenedesmus yn ystod goleuo?
- Sut y gallech chi ddefnyddio’r dull hwn i ddarganfod sut mae tanbeidrwydd golau yn effeithio ar gyfradd ffotosynthesis?
I wneud peli algaidd
5cm3 o feithriniad Scenedesmus quadricauda
rhoden wydr
3cm3 o hydoddiant sodium alginad (3%)
biceri
chwistrell 10cm3 heb nodwydd
dŵr distyll
200cm3 calsiwm clorid (2g/100cm3)
hidlen te
I gynnal yr arbrawf
peli algaidd
ffiol wydr + caead
dangosydd hydrogencarbonad 10cm3
siart lliw i’r dangosydd (School Science Review 85 (312) 37–45) neu golorimedr â hidlydd 550nm
riwl fetr
lamp fflwroleuol
amserydd
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Hydoddiant calsiwm clorid - llidiog i’r croen a’r llygaid |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Dangosydd hydrogen carbonad - llidiog i’r llygaid |
Cyffyrddiad â’r llygaid |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Ffynhonnell olau yn mynd yn boeth wrth ei defnyddio |
Risg o gael llosgiadau |
Peidiwch â chyffwrdd y ffynhonnell olau pan mae’n cael ei defnyddio neu yn fuan wedyn. |
Cyfarpar gwydr |
Mae gwydr wedi torri yn finiog |
Cymerwch ofal wrth ei ddefnyddio fel nad yw yn torri. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus. |