Bioleg

20. Defnyddio cromatograffaeth i ymchwilio i wahanu pigmentau cloroplastau

  • 00:56 Pam ydych chi’n malu’r dail â thywod?
  • 01:27 Pam mae'n rhaid i chi ddefnyddio pensil ac nid pen i wneud y llinell?
  • 01:52 Pam mae angen i chi grynodi’r pigment?
  • 01:59 Pam mae'n rhaid i'r papur cromatograffeg gyffwrdd yr hydoddydd?
  • 02:15 Pam mae'n rhaid i'r smotyn pigment fod uwchben arwyneb yr hydoddydd?
  • 03:10 Pa bigmentau allwch chi eu henwi?
  • dail gwyrdd tywyll e.e. sbigoglys, danadl poethion

  • papur cromatograffaeth neu blatiau cromatograffaeth gel silica

  • siswrn

  • pensil

  • tywod

  • riwl

  • pestl a morter

  • tiwb capilari

  • sychwr gwallt

  • propanon

  • 2 diwb berwi

  • dŵr distyll

  • ether petroliwm

  • 2 gaead

  • ffiol

  • piped

Perygl Risg Mesur rheoli

Propanon: Hylif ac anwedd fflamadwy iawn. Gall achosi llid difrifol i’r llygaid.

Cyffyrddiad â fflamau noeth. Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen.

Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau eraill allai danio. Sicrhewch fod y labordy wedi'i awyru'n dda. Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud).

Ether petroliwm: Hylif ac anwedd fflamadwy iawn.

Cyffyrddiad â fflamau noeth

Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau eraill allai danio. Sicrhewch fod y labordy wedi'i awyru'n dda.

Siswrn

Toriadau i’r croen

Torrwch gan wyro i ffwrdd o’r corff.