20. Defnyddio cromatograffaeth i ymchwilio i wahanu pigmentau cloroplastau
- 00:56 Pam ydych chi’n malu’r dail â thywod?
- 01:27 Pam mae'n rhaid i chi ddefnyddio pensil ac nid pen i wneud y llinell?
- 01:52 Pam mae angen i chi grynodi’r pigment?
- 01:59 Pam mae'n rhaid i'r papur cromatograffeg gyffwrdd yr hydoddydd?
- 02:15 Pam mae'n rhaid i'r smotyn pigment fod uwchben arwyneb yr hydoddydd?
- 03:10 Pa bigmentau allwch chi eu henwi?
dail gwyrdd tywyll e.e. sbigoglys, danadl poethion
papur cromatograffaeth neu blatiau cromatograffaeth gel silica
siswrn
pensil
tywod
riwl
pestl a morter
tiwb capilari
sychwr gwallt
propanon
2 diwb berwi
dŵr distyll
ether petroliwm
2 gaead
ffiol
piped
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Propanon: Hylif ac anwedd fflamadwy iawn. Gall achosi llid difrifol i’r llygaid. |
Cyffyrddiad â fflamau noeth. Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen. |
Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau eraill allai danio. Sicrhewch fod y labordy wedi'i awyru'n dda. Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Ether petroliwm: Hylif ac anwedd fflamadwy iawn. |
Cyffyrddiad â fflamau noeth |
Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau eraill allai danio. Sicrhewch fod y labordy wedi'i awyru'n dda. |
Siswrn |
Toriadau i’r croen |
Torrwch gan wyro i ffwrdd o’r corff. |