Bioleg
19. Ymchwilio i actifedd dadhydrogenas mewn burum
- 00:22 Pa foleciwlau sy’n gweithredu fel derbynyddion hydrogen yn ystod resbiradaeth aerobig?
- 00:41 Sut y byddwch yn addasu'r dull hwn i ymchwilio i actifedd dadhydrogenas mewn burum?
dangosydd rhydocs: methylen glas (0.05g/100cm3)
daliant burum (100g/dm-3)
baddon dŵr 30oC
tiwb profi
corcyn i’r tiwb profi
chwistrell 10 cm3
chwistrell 1 cm3
stopgloc
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Methylen glas – llidiog i’r llygaid |
Cyffyrddiad â’r llygaid |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Daliant burum – llidiog i’r llygaid |
Cyffyrddiad â’r llygaid |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). |