Bioleg

17. Lluniadu cynllun gwyddonol chwyddhad isel o sleid wedi'i pharatoi o doriad ardraws drwy rydweli a gwythïen

  • 00:30 Pa wahaniaethau ydych chi'n sylwi arnynt rhwng strwythur y rhydweli a'r wythïen ar eich sleid?
  • 01:04 Beth yw chwyddhad eich lluniad rhydweli?
  • 01:32 Beth yw chwyddhad eich lluniad gwythïen?
  • microsgop

  • sleid o doriad ardraws drwy rydweli / gwythïen

Perygl Risg Mesur rheoli

Sleid wydr - miniog os yw’n cael ei thorri

Toriadau i’r croen

Dechreuwch ffocysu gyda’r gwrthrychiadur agosaf at y sleid a defnyddiwch y rheolydd ffocws i symud y gwrthyrchiadur i ffwrdd o'r llwyfan. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus.