Bioleg

10. Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau blaenwreiddyn i ddangos camau mitosis

  • 00:32 Pa foleciwlau sydd wedi eu staenio'n goch gyda’r staen orsëin asetig?
  • 01:25 Pam mae’n rhaid i chi wasgu blaen y gwreiddyn?
  • 01:47 Pa gamau mitosis allwch chi eu hadnabod ar eich sleid?
  • 01:54 Pa un yw'r cam mwyaf cyffredin o fitosis y gallwch chi ei weld?
  • 01:54 Beth mae hyn yn ei ddweud wrthych am yr hyd cymharol o amser y mae celloedd yn ei dreulio yn y cam hwn?
  • microsgop

  • gwresogydd Bunsen / plât poeth

  • garlleg neu wnionsyn â gwreiddiau'n datblygu

  • sleid microsgop ac arwydryn

  • cyllell llawfeddyg

  • gefel fain

  • grwydryn oriawr

  • nodwydd wedi'i mowntio

  • staen orsëin asetig

  • pibed ddiferu

  • asid hydroclorig 1 mol dm-3

  • tywel papur

Perygl Risg Mesur rheoli

Staen orsëin asetig - Llidiog i’r llygaid a’r croen.

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen.

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). Ceisiwch osgoi anadlu anwedd.

1M o asid hydroclorig - Llidiog i’r llygaid a’r croen.

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen.

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud).

Cyllell llawfeddyg

Toriadau i groen.

Torrwch am i lawr ac i ffwrdd o’r corff ar deilsen wen neu fwrdd torri

Gwresogydd Bunsen/plât poeth.

Risg o losgi neu gracio’r sleid.

Daliwch y sleid gyda gefel fain. Gwresogwch y sleid am 4-5 eiliad yn unig. Peidiwch â chyffwrddd y plât poeth

Nodwydd wedi'i mowntio – pen miniog.

Risg o bigo’r croen

Cariwch y nodwydd gyda’r pig am i lawr, i ffwrdd o’r corff.