10. Gwneud lluniadau gwyddonol o gelloedd o sleidiau blaenwreiddyn i ddangos camau mitosis
- 00:32 Pa foleciwlau sydd wedi eu staenio'n goch gyda’r staen orsëin asetig?
- 01:25 Pam mae’n rhaid i chi wasgu blaen y gwreiddyn?
- 01:47 Pa gamau mitosis allwch chi eu hadnabod ar eich sleid?
- 01:54 Pa un yw'r cam mwyaf cyffredin o fitosis y gallwch chi ei weld?
- 01:54 Beth mae hyn yn ei ddweud wrthych am yr hyd cymharol o amser y mae celloedd yn ei dreulio yn y cam hwn?
microsgop
gwresogydd Bunsen / plât poeth
garlleg neu wnionsyn â gwreiddiau'n datblygu
sleid microsgop ac arwydryn
cyllell llawfeddyg
gefel fain
grwydryn oriawr
nodwydd wedi'i mowntio
staen orsëin asetig
pibed ddiferu
asid hydroclorig 1 mol dm-3
tywel papur
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Staen orsëin asetig - Llidiog i’r llygaid a’r croen. |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen. |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). Ceisiwch osgoi anadlu anwedd. |
1M o asid hydroclorig - Llidiog i’r llygaid a’r croen. |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen. |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Cyllell llawfeddyg |
Toriadau i groen. |
Torrwch am i lawr ac i ffwrdd o’r corff ar deilsen wen neu fwrdd torri |
Gwresogydd Bunsen/plât poeth. |
Risg o losgi neu gracio’r sleid. |
Daliwch y sleid gyda gefel fain. Gwresogwch y sleid am 4-5 eiliad yn unig. Peidiwch â chyffwrddd y plât poeth |
Nodwydd wedi'i mowntio – pen miniog. |
Risg o bigo’r croen |
Cariwch y nodwydd gyda’r pig am i lawr, i ffwrdd o’r corff. |