Bioleg

09. Echdynnu DNA yn syml o ddefnydd byw

  • 00:36 Pam mae’n rhaid i chi chwalu celloedd y mefus?
  • 00:42 Pa adeiledd celloedd sydd wedi ei niweidio fwyaf gan y glanedydd?
  • 01:10 Pam mae angen i chi hidlo cynnwys y bag?
  • 01:45 Ydy eich sampl yn cynnwys asidau niwclëig?
  • 1 bag plastig sy’n gallu cael ei ailselio

  • 1 fefusen

  • 10 cm3 o hylif golchi llestri (glanedydd)

  • 1 g o halen

  • 100 cm3 o ddŵr

  • 2 x bicer 250 cm3 (caiff un bicer ei ddefnyddio ar gyfer y cyfarpar hidlo isod)

  • cyfarpar hidlo: papur hidlo coffi a bicer

  • alcohol 90% wedi’i oeri gydag iâ

  • 1 ffon lolipop neu dröydd coffi plastig

  • staen orsëin asetig

  • menyg amddiffynnol/latecs

Perygl Risg Mesur rheoli

Staen orsëin asetig - llidiog i’r llygaid a’r croen.

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen.

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). Ceisiwch osgoi anadlu anwedd.

90% alcohol - Hylif ac anwedd fflamadwy iawn.

Mae’n tanio.

Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau tanio eraill.

Hylif echdynnu DNA / glanedydd – llidiog i’r llygaid a’r croen.

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud).