09. Echdynnu DNA yn syml o ddefnydd byw
- 00:36 Pam mae’n rhaid i chi chwalu celloedd y mefus?
- 00:42 Pa adeiledd celloedd sydd wedi ei niweidio fwyaf gan y glanedydd?
- 01:10 Pam mae angen i chi hidlo cynnwys y bag?
- 01:45 Ydy eich sampl yn cynnwys asidau niwclëig?
1 bag plastig sy’n gallu cael ei ailselio
1 fefusen
10 cm3 o hylif golchi llestri (glanedydd)
1 g o halen
100 cm3 o ddŵr
2 x bicer 250 cm3 (caiff un bicer ei ddefnyddio ar gyfer y cyfarpar hidlo isod)
cyfarpar hidlo: papur hidlo coffi a bicer
alcohol 90% wedi’i oeri gydag iâ
1 ffon lolipop neu dröydd coffi plastig
staen orsëin asetig
menyg amddiffynnol/latecs
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Staen orsëin asetig - llidiog i’r llygaid a’r croen. |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen. |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). Ceisiwch osgoi anadlu anwedd. |
90% alcohol - Hylif ac anwedd fflamadwy iawn. |
Mae’n tanio. |
Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau tanio eraill. |
Hylif echdynnu DNA / glanedydd – llidiog i’r llygaid a’r croen. |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). |