Bioleg

07. Ymchwilio i effaith tymheredd neu pH ar actifedd ensymau

  • 00:23 Pam y mae’r hydoddiant sodiwm carbonad yn cael ei ychwanegu at yr hydoddiant lipas?
  • 00:51 Beth yw lliw y dangosydd ar y dechrau?
  • 00:55 Pa foleciwlau yn y llaeth sy’n cael eu hydrolysu gan lipas?
  • 00:57 Pa gynhyrchion yr adwaith hydrolysis hyn sy’n achosi newid lliw y ffenolffthalein?
  • 00:58 Beth ydy effaith tymheredd ar actifedd y lipas?
  • Sut y gallech chi newid yr arbrawf hwn i ddarganfod sut mae pH yn effeithio ar actifedd ensymau? 
  • llaeth cyflawn neu hanner sgim

  • ffenolffthalein mewn potel diferydd

  • hydoddiant lipas (5g/100cm3)

  • hydoddiant sodiwm carbonad (0.05 mol dm–3)

  • 5 x tiwbiau profi a rhesel

  • 2 x chwistrelli/silindrau mesur 10cm3

  • chwistrell 2cm3

  • rhoden droi

  • thermomedr

  • baddonau dŵr ar 15oC, 25oC, 35oC, 45oC a 55oC

Perygl Risg Mesur rheoli

Lipas

Gall ensymau achosi adwaith alergaidd. Gallant achosi asthma a llid i’r llygaid, trwyn a’r croen.

Defnyddiwch y swm lleiaf posibl. Gwisgwch sbectol diogelwch. Golchwch eich dwylo yn drylwyr ar ôl ei ddefnyddio.

Dangosydd ffenolffthalein- llidiog i’r llygaid a’r croen, gwenwynig iawn

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen. Gwenwynig os caiff ei lyncu.

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr (10 munud). Peidiwch a’i yfed. Golchwch eich dwylo yn drylwyr ar ôl ei ddefnyddio.