Bioleg

06. Defnyddio betys i ymchwilio i athreiddedd cellbilenni

  • 00:44 Ble yn y celloedd y mae’r pigment betalain yn cael ei storio?
  • 00:55 Beth sy’n digwydd i amsugnedd y colorimedr wrth i fwy o betalain gael ei ryddhau?
  • 01:07 Beth yw’r berthynas rhwng tymheredd a faint o’r betalain sy’n cael ei ryddhau?
  • 01:13 Beth sy’n rhaid digwydd i adeiledd y bilen er mwyn i’r betalain gael ei ryddhau?
  • 01:31 Pa fath o foleciwl yn adeiledd y bilen yw’r mwyaf tebygol o gael ei ddifrodi gan dymheredd sy’n cynyddu?
  • silindrau betys

  • teilsen wen

  • 5 tiwb profi

  • cyllell llawfeddyg

  • dŵr distyll

  • riwl (mm)

  • chwistrell 5cm3

  • bicer 250cm3

  • gefel

  • baddonau dŵr wedi’u gosod ar 25, 35, 45, 55, 65oC

  • thermomedr

  • stopgloc

  • colorimedr a hidlydd glas/gwyrdd (530nm) neu siart lliw

  • cerdyn gwyn

  • rhesel tiwbiau profi

Perygl Risg Mesur rheoli

Cyllell llawfeddyg

Toriadau i’r croen

Torrwch am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff, ar deilsen wen neu fwrdd torri.