Bioleg

04. Canfod potensial dŵr drwy fesur newidiadau màs neu hyd

  • 00:40 Pam mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl groen tatws yn cael ei dynnu?
  • 01:16 Pa ddull sy’n rhoi’r mesuriadau mwyaf manwl gywir – mesur hyd i 1mm neu fàs i 0.01g?
  • 01:58 Pam y dylid gadael y silindrau yn yr hylif am o leiaf 45 munud?
  • 02:22 Pam ydych chi'n blotio’r silindrau a pheidio pwyso’n rhy galed wrth blotio?
  • 02:28 Pam y defnyddir canran (%) y newid?
  • 02:58 Pa grynodiad hydoddiant sodiwm clorid sydd ddim yn rhoi newid canrannol cymedrig yn yr hyd neu fàs?
  • 03:08 Beth yw ψ meinwe’r daten?
  • llysieuyn e.e. taten

  • bwrdd torri/ teilsen wen

  • tyllwyr corcyn: mae meintiau 3 a 4 yn addas

  • rhoden wydr

  • riwl wedi’i graddio mewn mm

  • clorian (i 0.01g)

  • cyllell llawfeddyg fain

  • gefel fain

  • 5 x tiwb berwi

  • rhesel tiwbiau berwi

  • silindr mesur 50cm3

  • pen marcio

  • dŵr distyll

  • hydoddiannau sodiwm clorid (0.2, 0.4, 0.6, 0.8 mol dm-3)

Perygl Risg Mesur rheoli

Cyllell llawfeddyg

Toriadau i’r croen

Torrwch am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff, ar deilsen wen.

Tyllwr corcyn

Toriadau i’r croen.

Gwthiwch i lawr ar deilsen wen neu fwrdd torri.