Bioleg
04. Canfod potensial dŵr drwy fesur newidiadau màs neu hyd
- 00:40 Pam mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl groen tatws yn cael ei dynnu?
- 01:16 Pa ddull sy’n rhoi’r mesuriadau mwyaf manwl gywir – mesur hyd i 1mm neu fàs i 0.01g?
- 01:58 Pam y dylid gadael y silindrau yn yr hylif am o leiaf 45 munud?
- 02:22 Pam ydych chi'n blotio’r silindrau a pheidio pwyso’n rhy galed wrth blotio?
- 02:28 Pam y defnyddir canran (%) y newid?
- 02:58 Pa grynodiad hydoddiant sodiwm clorid sydd ddim yn rhoi newid canrannol cymedrig yn yr hyd neu fàs?
- 03:08 Beth yw ψ meinwe’r daten?
llysieuyn e.e. taten
bwrdd torri/ teilsen wen
tyllwyr corcyn: mae meintiau 3 a 4 yn addas
rhoden wydr
riwl wedi’i graddio mewn mm
clorian (i 0.01g)
cyllell llawfeddyg fain
gefel fain
5 x tiwb berwi
rhesel tiwbiau berwi
silindr mesur 50cm3
pen marcio
dŵr distyll
hydoddiannau sodiwm clorid (0.2, 0.4, 0.6, 0.8 mol dm-3)
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Cyllell llawfeddyg |
Toriadau i’r croen |
Torrwch am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff, ar deilsen wen. |
Tyllwr corcyn |
Toriadau i’r croen. |
Gwthiwch i lawr ar deilsen wen neu fwrdd torri. |