Bioleg

03. Paratoi sleid o gelloedd winwnsyn/nionyn a gwneud lluniad gwyddonol ohoni

  • 01:15 Sut mae swigod aer yn edrych o dan y microsgop?
  • 01:24 Pa ffurfiadau adeileddau cell ydych chi’n arsylwi arnynt?
  • 01:52 Pa unedau fyddwch chi’n eu defnyddio i gofnodi maint y gell?
  • microsgop â sylladur graticwl wedi'i osod arno

  • sleid microsgop ac arwydryn

  • winwnsyn/nionyn

  • tywel papur

  • cyllell llawfeddyg

  • teilsen wen

  • nodwydd wedi'i mowntio

  • hydoddiant ïodin–potasiwm ïodid 

  • gefel

Perygl Risg Mesur rheoli

Hydoddiant ïodin –potasiwm ïodid - llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen.

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud).

Arwydryn sleid microsgop – miniog os yw’n torri.

Toriadau i’r croen.

Cymerwch ofal wrth ei ddefnyddio fel nad yw yn torri. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus.

Cyllell llawfeddyg

Toriadau i’r croen.

Torrwch am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff, ar deilsen wen.