Bioleg
03. Paratoi sleid o gelloedd winwnsyn/nionyn a gwneud lluniad gwyddonol ohoni
- 01:15 Sut mae swigod aer yn edrych o dan y microsgop?
- 01:24 Pa ffurfiadau adeileddau cell ydych chi’n arsylwi arnynt?
- 01:52 Pa unedau fyddwch chi’n eu defnyddio i gofnodi maint y gell?
microsgop â sylladur graticwl wedi'i osod arno
sleid microsgop ac arwydryn
winwnsyn/nionyn
tywel papur
cyllell llawfeddyg
teilsen wen
nodwydd wedi'i mowntio
hydoddiant ïodin–potasiwm ïodid
gefel
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Hydoddiant ïodin –potasiwm ïodid - llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen. |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud). Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud). |
Arwydryn sleid microsgop – miniog os yw’n torri. |
Toriadau i’r croen. |
Cymerwch ofal wrth ei ddefnyddio fel nad yw yn torri. Os torrir y gwydr, dylid ei ysgubo a chael gwared o’r gwydr sydd wedi torri, yn ofalus. |
Cyllell llawfeddyg |
Toriadau i’r croen. |
Torrwch am i lawr gan wyro i ffwrdd o’r corff, ar deilsen wen. |