Bioleg

01. Profion bwyd

Profi am siwgrau rhydwythol

  • 01:08 Beth yw lliw y gymysgedd ar y dechrau?
  • 01:13 Beth ydych chi'n arsylwi arno yn y tiwb ar ôl gwresogi am 5 munud?

Profi am siwgrau anrhydwythol

  • 01:25 Beth yw lliw y gymysgedd ar y dechrau?
  • 01:34 Beth ydych chi'n arsylwi arno yn y tiwb ar ôl gwresogi am 5 munud?
  • 01:42 Pam ydych chi’n ychwanegu asid hydroclorig gwanedig at y siwgr sydd ddim yn rhwytho a’i wresogi?
  • 01:58 Pam ydych chi wedyn yn ychwanegu sodiwm hydrocsid gwanedig neu sodiwm deucarbonad gwanedig?
  • 02:05 Beth ydych chi’n arsylwi arno?
  • 02:12 A allwch egluro pam roedd y prawf Benedict yn negatif ar y dechrau, ac yna'n bositif ar ôl ychwanegu asid, ei wresogi ac ychwanegu alcali?

Profi am brotein

  • 02:25 Pa liw yw’r adweithydd Biuret ar y dechrau?
  • 02:38 Pa liw yw’r hydoddiant ar ôl ychwanegu adweithydd Biuret?

Profi am startsh

  • 02:44 Pa liw ydy’r hydoddiant ïodin – potasiwm ïodid ar y dechrau?
  • 02:51 Pa liw yw’r hydoddiant ïodin – potasiwm ïodid pan fo startsh yn bresennol?

Profi am frasterau ac olewau

  • 02:54 Beth ydych chi’n sylwi arno pan mae’r alcohol a’r olew yn cwrdd?
  • 5 tiwb berwi

  • 2 diwb profi

  • 1 bicer

  • 3 pibed ddiferu

  • adweithydd Benedict

  • asid hydroclorig gwanedig (0.5 moldm-3)

  • sodiwm hydrocsid/ sodiwm deucarbonad gwanedig

  • adweithydd Biuret

  • hydoddiant ïodin–potasiwm ïodid 

  • alcohol pur

  • hydoddiant glwcos

  • hydoddiant swcros

  • hydoddiant albwmen

  • hydoddiant startsh

  • olew

  • baddon dŵr

Perygl Risg Mesur rheoli

Adweithydd Benedict - llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud)

Adweithydd Biuret - llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud)

Hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid - llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud)

Alcohol pur - fflamadwy

Cyffyrddiad i’r llygaid Cyffyrddiad â fflam noeth

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau eraill allai danio.

Asid hydroclorig gwanedig - llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid a’r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud)

Sodiwm hydrocsid gwanedig - llidiog

Cyffyrddiad â’r llygaid a’r croen

Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud)