01. Profion bwyd
Profi am siwgrau rhydwythol
- 01:08 Beth yw lliw y gymysgedd ar y dechrau?
- 01:13 Beth ydych chi'n arsylwi arno yn y tiwb ar ôl gwresogi am 5 munud?
Profi am siwgrau anrhydwythol
- 01:25 Beth yw lliw y gymysgedd ar y dechrau?
- 01:34 Beth ydych chi'n arsylwi arno yn y tiwb ar ôl gwresogi am 5 munud?
- 01:42 Pam ydych chi’n ychwanegu asid hydroclorig gwanedig at y siwgr sydd ddim yn rhwytho a’i wresogi?
- 01:58 Pam ydych chi wedyn yn ychwanegu sodiwm hydrocsid gwanedig neu sodiwm deucarbonad gwanedig?
- 02:05 Beth ydych chi’n arsylwi arno?
- 02:12 A allwch egluro pam roedd y prawf Benedict yn negatif ar y dechrau, ac yna'n bositif ar ôl ychwanegu asid, ei wresogi ac ychwanegu alcali?
Profi am brotein
- 02:25 Pa liw yw’r adweithydd Biuret ar y dechrau?
- 02:38 Pa liw yw’r hydoddiant ar ôl ychwanegu adweithydd Biuret?
Profi am startsh
- 02:44 Pa liw ydy’r hydoddiant ïodin – potasiwm ïodid ar y dechrau?
- 02:51 Pa liw yw’r hydoddiant ïodin – potasiwm ïodid pan fo startsh yn bresennol?
Profi am frasterau ac olewau
- 02:54 Beth ydych chi’n sylwi arno pan mae’r alcohol a’r olew yn cwrdd?
5 tiwb berwi
2 diwb profi
1 bicer
3 pibed ddiferu
adweithydd Benedict
asid hydroclorig gwanedig (0.5 moldm-3)
sodiwm hydrocsid/ sodiwm deucarbonad gwanedig
adweithydd Biuret
hydoddiant ïodin–potasiwm ïodid
alcohol pur
hydoddiant glwcos
hydoddiant swcros
hydoddiant albwmen
hydoddiant startsh
olew
baddon dŵr
Perygl | Risg | Mesur rheoli |
---|---|---|
Adweithydd Benedict - llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud) |
Adweithydd Biuret - llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid a'r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud) |
Hydoddiant ïodin-potasiwm ïodid - llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud) |
Alcohol pur - fflamadwy |
Cyffyrddiad i’r llygaid Cyffyrddiad â fflam noeth |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Sicrhewch nad oes fflamau noeth neu ffynonellau eraill allai danio. |
Asid hydroclorig gwanedig - llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid a’r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud) |
Sodiwm hydrocsid gwanedig - llidiog |
Cyffyrddiad â’r llygaid a’r croen |
Llygaid: golchwch â dŵr tap (10 munud) Croen: trochwch â dŵr. Golchwch â dŵr tap (10 munud) |